Llawysgrif Hen Saesneg yw Llyfr Caerwysg (Saesneg: Exeter Book, Lladin: Codex Exoniensis) a ysgrifennwyd yn niwedd y 10g. Hon yw'r flodeugerdd fwyaf o farddoniaeth Hen Saesneg sydd yn goroesi. Rhoddwyd y llawysgrif i Eglwys Gadeiriol Caerwysg gan yr Esgob Leofric yn y 11g.[1]

Mae'n cynnwys sawl genre wahanol, gan gynnwys bucheddau'r saint, y gerdd ddamhegol Phoenix, penillion crefyddol byrion, galargerddi seciwlar, dychmygion, barddoniaeth wirebol, a'r fawlgan Widsith.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Exeter Book. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Tachwedd 2022.