Llyn Llywenan

llyn yng Nghymru

Mae Llyn Llywenan yn llyn yng nghanol Ynys Môn, rhyw filltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Bodedern ac ychydig i'r de-orllewin o Lyn Alaw. Gydag arwynebedd o 39.1 ha, Llyn Llywenan yw'r llyn naturiol mwyaf ar yr ynys. Mae’n perthyn i ystad Presaddfed.

Llyn Llywenan
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3056°N 4.4806°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Disgrifiad golygu

Nid oes unrhyw afon o faint yn llifo i mewn nag allan o'r llyn. Ceir pysgota brithyll yno, ac mae amrywiaeth o adar dŵr yn nythu. Mae'r llyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ger ochr ddeheuol y llyn mae siambr gladdu Neolithig Presaddfed. Mae Maes Criced Bodedern ym Mhresaddfed.

Cyfeiriadau golygu