Bodedern

cymuned ar Ynys Môn, Cymru

Pentref a chymuned yng ngorllewin Ynys Môn yw Bodedern. Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 1,016 o bobl yn byw yn y gymuned hon a 718 (sef 70.7%) o'r boblogaeth dros dair oed a hŷn yn gallu siarad Cymraeg.[1] Roedd 142 yn ddi-waith, sef 32.1% o'r rhai o fewn yr oedran priodol.

Bodedern
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,051 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd935.978 ±0.001 ha, 1,932.46 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr23.2 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLlanfair-yn-Neubwll, Bryngwran, Llanfachraeth, Ynys Môn, Bodffordd, Tref Alaw, Y Fali Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2904°N 4.503963°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000004 Edit this on Wikidata
Cod OSSH33197996 Edit this on Wikidata
Cod postLL65 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map
Canol Bodedern
Tŷ Franan, Bodedern; man geni a magu W. D. Owen

Hanes a hynafiaethau golygu

Gerllaw'r pentref roedd cartref Gruffudd Gryg, yn ôl traddodiad, a gerllaw hefyd mae Presaddfed (neu 'Prysaeddfed'), plasty fu'n noddi'r beirdd am genedlaethau. Ger prif fynedfa'r plasdy mae dwy siambr gladdu sy'n dyddio nôl i tua 3000 C.C. (gweler Presaddfed (siambr gladdu))

Ganed y nofelydd poblogaidd W. D. Owen yn Nhŷ Franan ym mhlwyf Bodedern yn 1874. Credir fod llawer o hanes lliwgar ei nofel Madam Wen yn seiliedig ar draddodiadau lleol. Yn ôl traddodiad yn ardal Bodedern, roedd ogof Madam Wen mewn hafn ar ochr Llyn Traffwll, ger y pentref.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 ger Bodedern ar 4-12 Awst 2017.

Addysg a chwaraeon golygu

Mae yno ysgol uwchradd, sef Ysgol Uwchradd Bodedern a sefydlwyd yn 1977.

Mae C.P.D. Bodedern yn chwarae yng Nghyngrair Gwynedd.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bodedern (pob oed) (1,051)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bodedern) (718)
  
70.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bodedern) (787)
  
74.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bodedern) (142)
  
32.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Adeiladau a chofadeiladau golygu

Pobl o Fodedern golygu

  • Gruffudd Gryg, bardd canoloesol
  • W. D. Owen, nofelydd
  • Owen Hughes [1], ffermwr, gweinidog lleyg a dyddiadurwr o Dregwehelyth. Mae cofnodion amaethyddol a thywydd ei ddyddiaduron i’w gweld yma [2] yn Nhywyddiadur gwefan Llên Natur.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyfrifiad 2011; gwefan Saesneg "Ystadegau Cenedlaethol y DU". Adalwyd 28 Ebrill 2013.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato