Llys Bedydd

pentref ger Wrecsam

Pentref bychan o tua 150 o anheddau yng nghymuned De Maelor, Mwrdeistref Sirol Wrecsam, yw Llys Bedydd (Saesneg: Bettisfield).[1][2] Saif i'r de o Gamlas Llangollen ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr (Swydd Amwythig), yn rhanbarth hanesyddol Maelor Seisnig a arferai fod yn rhan o sir hanesyddol Sir y Fflint. Mae trefi marchnad Lloegr yr Eglwys Wen, Ellesmere a Wem tua 6 milltir i ffwrdd i'r gogledd-ddwyrain, y gorllewin a'r de-ddwyrain. Mae tua 15 milltir o ganol dref Wrecsam a 3 milltir o bentref Hanmer.

Llys Bedydd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9°N 2.8°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ459351 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLesley Griffiths (Llafur)
AS/auSarah Atherton (Ceidwadwyr)
Map

Fe'i disgrifir yn llyfr Domesday (1086) fel rhan o gantref Dudeston, Swydd Gaer, gan gofnodi 28 o aelwydydd a gwerth i'r Arglwydd Edwin ym 1066 o £18 9s, gan ostwng i £3 yn 1086.

Mae'r pentref yn agos at Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Bettisfield, ardal o gors mawn a ddynodwyd yn warchodfa natur genedlaethol ym 1996 oherwydd ei bwysigrwydd i fywyd gwyllt.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Gorffennaf 2022