Louis MacNeice

bardd yn yr iaith Saesneg

Bardd a dramodydd o Ogledd Iwerddon yn yr iaith Saesneg oedd Frederick Louis MacNeice, CBE (12 Medi 19073 Medi 1963). Caiff ei gysylltu â W. H. Auden, Cecil Day-Lewis, a Stephen Spender, y garfan o "feirdd newydd" yn y 1930au.

Louis MacNeice
Ganwyd12 Medi 1907 Edit this on Wikidata
Belffast Edit this on Wikidata
Bu farw3 Medi 1963 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, dramodydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadJohn Macneice Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Ganwyd ym Melffast yn fab i weinidog yn Eglwys Iwerddon, ac yn fuan symudodd y teulu i Carrickfergus, Swydd Antrim. Mynychodd ysgolion yn Lloegr ac astudiodd yng Ngholeg Merton, Rhydychen o 1926 i 1930. Cafodd swydd yn ddarlithydd ar bwnc y clasuron ym Mhrifysgol Birmingham o 1930 i 1936. Addysgodd yr iaith Roeg yng Ngholeg Merched Bedford, Llundain o 1936 i 1940.

Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Blind Fireworks, ym 1929. ym 1941 dechreuodd MacNeice ysgrifennu dramâu radio i'r BBC, gan gynnwys y ffantasi The Dark Tower (1947). Cyfieithodd hefyd sawl gwaith o'r Hen Roeg i'r Saesneg, gan gynnwys Horas ac Aeschulos.

Bywyd cynnar ac addysg golygu

 
Llechen las yn nodi cartref y bachgen Louis yn Carrickfergus.

Ganwyd Frederick Louis MacNeice yn 1 Brookhill Avenue, Belffast, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, ar 12 Medi 1907. Ei rieni oedd John Frederick MacNeice (1866–1942) ac Elizabeth Margaret "Lily" MacNeice, gynt Clesham (1866–1914), y ddau ohonynt yn hanu o Swydd Galway. Roedd ganddo un brawd, William, oedd â syndrom Down, ac un chwaer, Caroline Elizabeth. Symudodd y teulu i Carrickfergus, Swydd Antrim, ym 1908, a bu John MacNeice yn rheithor yno hyd 1931. Yn sgil marwolaeth Elizabeth ym 1914, cafodd y plant eu magu gan athrawes gartref. ym 1917, priododd John ei ail wraig, Georgina Beatrice, a ddaeth yn llysfam i'r plant. Penodwyd John yn Esgob Cashel a Waterford ym 1931, ac yn Esgob Down a Connor a Dromore ym 1935.[1]

Aeth Louis i Ysgol Baratoi Sherborne yn Sherborne, Dorset, ym 1917, a chafodd gyfnod hapus yno. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Marlborough yn Marlborough, Wiltshire ym 1921. Yno fe ragorodd yn y clasuron a chwaraeodd rygbi, ac roedd yn hoff o redeg dros y twyni. Ymhlith ei gyd-ddisgyblion, a fuont yn gyfeillion iddo am oes, oedd y bardd Bernard Spencer, y darlunydd Graham Shepard, a'r hanesydd celf ac ysbïwr Anthony Blunt. Ysgrifennodd Louis nifer o gerddi yn ystod ei ddyddiau ysgol, a magodd barnau amheugar ynglŷn â chrefydd, gwyddoniaeth, a gwleidyddiaeth.[1]

ym 1926 enillodd MacNeice postmastership, gwobr academaidd unigryw i Goleg Merton, Prifysgol Rhydychen, ac astudiodd yn y coleg hwnnw o 1926 i 1930. I ddechrau, teimlodd fod y gwaith yn ddiflas, a Treuliodd ei amser rhydd yn ysgrifennu cerddi a straeon dychanol a ffantastig. Yn y pen draw, cyfarfu MacNeice â beirdd ifainc eraill yn Rhydychen, gan gynnwys W. H. Auden, Stephen Spender, a Clere Parsons. Derbyniodd radd dosbarth cyntaf yn arholiadau'r Honour Moderations ym 1928, ac ymddiddorodd yn frwd yn ail ran ei gwrs, athroniaeth y Greats. ym 1929, cyhoeddodd MacNeice ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Blind Fireworks, ac efe a Spender oedd cyd-olygyddion y cylchgrawn llenyddol Oxford Poetry am flwyddyn. ym 1930 enillodd MacNeice radd dosbarth cyntaf yn literae humaniores. Ar 21 Mehefin 1930, priododd Giovanna Marie Thérèse Babette (Mary) Ezra (1908–91).[1]

Gyrfa academaidd golygu

Wedi iddo ennill ei radd o Rydychen, cafodd MacNeice swydd yn ddarlithydd ar bwnc y clasuron ym Mhrifysgol Birmingham o 1930 i 1936. Cyhoeddodd nofel, Roundabout Way (1932), dan y ffugenw Louis Malone, ac yn fuan trodd ei gefn ar y gwaith hwnnw. Ganwyd ei fab Daniel ym 1934. Daeth MacNeice yn gyfeillgar â nifer o ysgolheigion yn Birmingham, gan gynnwys E. R. Dodds, y clasurydd o fri a oedd yn bennaeth ar ei gyfadran. Cyfranodd MacNeice at gylchgronau barddoniaeth, gan gynnwys New Verse, a chyhoeddodd ei ail gyfrol o gerddi, Poems, ym 1935. Gweithiodd hefyd, gyda chefnogaeth yr Athro Dodds, ar gyfieithiad ar fydr o'r ddrama Agamemnon gan Aeschulos, a gyflawnwyd ym 1936.[1] Ac eithrio'r hwnnw, methiannau a fu ei ymdrechion cynnar ym myd y theatr, sef y dramâu Station Bell (1935) ac Out of the Picture (1937).

ym 1935 ffoes ei wraig, i fyw tali gyda myfyriwr ôl-raddedig Americanaidd. Ceisiodd MacNeice ymdopi â'r gwrthodiad hwn drwy deimlo rhyddid newydd yn ei fywyd personol. Ysgrifennodd yn ei hunangofiant, "I suddenly realized I was under no more obligations to be respectable".[2] Teithiodd i Sbaen gydag Anthony Blunt yng ngwanwym 1936, ac yn yr haf derbyniodd swydd darlithydd yn yr iaith Roeg yng Ngholeg Bedford, Llundain. Yn y cyfnod hwn, bu hefyd yn ymweld â Gwlad yr Iâ gydag Auden, a mi oedd y daith honno yn ffrwyth y gyfrol Letters from Iceland (1937) ganddynt. Cafodd ei gyflwyno i Nancy Culliford Sharp (1909–2001), gwraig yr arlunydd Syr William Coldstream, trwy Auden, ac ym 1937 cychwynnodd MacNeice a Sharp ar garwriaeth.[1]

Yn Llundain, ymdrwythodd MacNeice ym mywyd diwylliannol y brifddinas. Yn ogystal â'i ddarlithoedd a'i ddyletswyddau i'r coleg, treuliodd ei amser yn mynd i bartïon, arddangosiadau preifat, a chyfarfodydd gwleidyddol. Un o'r adain chwith ydoedd, er nad oedd yn cytuno â sosialaeth chwyldroadol nac yn hoff o'r Blaid Gomiwnyddol. Llwyddiant a fu'r perfformiad o'i Agamemnon gan y Group Theatre. Cyhoeddodd sawl llyfr yn y cyfnod hwn: y casgliadau o farddoniaeth The Earth Compels (1938) ac Autumn Journal (1939); y gweithiau rhyddiaith I Crossed the Minch (1938) a Zoo (1938), y ddau wedi eu darlunio gan Nancy Sharp; a'r astudiaeth feirniadol Modern Poetry (1938). Yn ôl nifer, Autumn Journal ydy campwaith MacNeice, a gymharai'n aml â The Prelude gan William Wordsworth. Cerdd hir ddramataidd ydyw sy'n rhagweld y dinistr i ddod ar ddiwedd y 1930au, a hefyd yn adlewyrchu teimladau'r bardd yn sgil diwedd ei berthynas â Sharp.[1]

Teithiodd MacNeice i Sbaen unwaith eto ym 1939, ar ddiwedd Rhyfel Cartref Sbaen, ac ymwelodd hefyd ag Unol Daleithiau America ac Iwerddon. Penderfynodd adael ei swydd yng Ngholeg Bedford a cheisio cychwyn bywyd newydd yn yr Unol Daleithiau gyda'r awdur Eleanor Clark (1913–96), a fu'n ei chwrdd yn Efrog Newydd. Darlithiodd ym Mhrifysgol Cornell am flwyddyn, cyn iddo benderfynu dychwelyd i Loegr rhag ofn yr oedd yn "colli hanes" adeg yr Ail Ryfel Byd.[3] Wedi iddo ddioddef o lid y berfeddlen, cyrhaeddodd Loegr yn Rhagfyr 1940. Gwrthodwyd iddo ymrestru â'r lluoedd arfog oherwydd nam ar ei olwg.[1]

Y BBC golygu

Ymunodd ag adran rhaglenni nodwedd y BBC ym Mai 1941 fel sgriptiwr a chynhyrchydd radio. Dan arweiniad y cynhyrchydd Laurence Gilliam, gweithiodd MacNeice ar sawl rhaglen gan gynnwys The Stones Cry Out a Alexander Nevsky, a'r dramâu radio Christopher Columbus (1944). He Had a Date (1944), a The Dark Tower (1947). Yn ystod cyfnod y rhyfel, cyhoeddodd MacNeice ragor o gasgliadau o gerddi—The Last Ditch (1940), Selected Poems (1940), Plant and Phantom (1941), Springboard (1944), Prayer Before Birth (1944)—a'r astudiaeth feirniadol The Poetry of W. B. Yeats (1941). Priododd yr actores a chantores Antoinette Millicent Hedley "Hedli" Anderson (1907–90) ar 1 Gorffennaf 1942, a chawsant ferch, Corinna, ym 1943.[1]

Wedi'r rhyfel, parhaodd MacNeice i weithio ar raglenni radio, a daeth yn gyfeillgar â sawl bardd arall oedd yn recordio yn stiwdios y BBC, gan gynnwys W. R. Rodgers a Dylan Thomas. Teithiodd i nifer o wledydd ar orchwyl i'r BBC, gan gynnwys yr Eidal, India, Pacistan, y Traeth Aur, a De Affrica, yn ogystal â dychweliadau i'r Unol Daleithiau ac Iwerddon. Addasodd Faust ar gyfer y radio i nodi deucanmlwydd ers genedigaeth Goethe ym 1949. Aeth i Athen yn Ionawr i Fedi 1950 fel cyfarwyddwr y Sefydliad Prydeinig ac o Fedi 1950 i Fawrth 1951 fel dirprwy gynrychiolydd i'r Cyngor Prydeinig. Cyhoeddodd y cyfrolau o farddoniaeth Holes in the Sky (1948), Collected Poems, 1925–1948 (1949), Ten Burnt Offerings (1952), Autumn Sequel (1954), a Visitations (1957) yn y cyfnod hwn, yn ogystal â'r stori i blant The Sixpence That Rolled Away (1956).[1]

Derbyniodd MacNeice ddoethuriaeth er anrhydedd oddi wrth Prifysgol y Frenhines, Belffast ym 1957, a fe'i urddwyd yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) ym 1958. Ymwahanodd MacNeice a'i ail wraig Hedli ym 1960. Dechreuodd ar berthynas gyda'r actores Mary Wimbush (1924–2005). Gadawodd ei swydd lawn-amser gyda'r BBC ym 1961.[1]

Diwedd ei oes golygu

Y gyfrol olaf o farddoniaeth a gyhoeddwyd ganddo yn ystod ei oes oedd Solstices (1961). Dewiswyd MacNeice i draddodi darlithoedd Clark ym 1963.

 
Bedd Louis MacNeice, ei chwaer, ei fam, a'i daid, yn Carrowdore.

Aeth MacNeice i Swydd Efrog i wneud rhaglen ar gyfer y radio o'r enw Persons from Porlock. Fel rhan o'r cynhyrchiad, bu'n rhaid i'r peirianwyr recordio dan ddaear, a mynnodd MacNeice eu hebrwng, a fe gafodd oerfel. Bu farw o niwmonia firaol yn Ysbyty Sant Leonard yn Shoreditch, Llundain, ar 3 Medi 1963. Cynhaliwyd ei angladd yn Llundain ar 7 Medi, a chladdwyd ei ludw ym Mynwent Eglwys Carrowdore, Swydd Down.[1]

Cyhoeddwyd sawl gwaith ganddo wedi ei farwolaeth, gan gynnwys y casgliadau o gerddi The Burning Perch (1963) a Star-gazer (1963), y casgliad o'i ddarlithoedd Clark Varities of Parable (1965), a'i hunangofiant The Strings Are False (1965, a ysgrifennwyd ganddo ym 1941).

Arddull a chynnwys ei farddoniaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 Davin, D. M., and Jon Stallworthy. "MacNeice, (Frederick) Louis (1907–1963), writer." Oxford Dictionary of National Biography. 28 Jun. 2019. https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-34808.
  2. Louis MacNeice, The Strings are False, golygwyd gan E. R. Dodds (Llundain: Faber and Faber, 1965), t. 152.
  3. Louis MacNeice, Selected Prose of Louis MacNeice, golygwyd gan Alan Heuser (Rhydychen: Clarendon Press, 1990), t. 83.

Darllen pellach golygu

  • Barbara Coulton, Louis MacNeice in the BBC (Llundain: Faber and Faber, 1980).
  • Jon Stallworthy, Louis MacNeice (Llundain: Faber and Faber, 1995).