Lustmord

cyfansoddwr a aned yn 1964

Mae Brian Williams yn un o’r cyfansoddwyr Cymreig cyfoes mwyaf llwyddiannus, yn gweithio fel cyfansoddwr sgoriau ffilm a theledu yn Hollywood a dylunydd sain gemau cyfrifiaduron.

Lustmord
FfugenwLustmord, Arecibo, Dread, Isolrubin BK Edit this on Wikidata
Ganwyd9 Ionawr 1964, 1964 Edit this on Wikidata
y Deyrnas Unedig, Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
Label recordioHydra Head Records, Soleilmoon Recordings Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, sound designer, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, ysgrifennwr, athro ysgol uwchradd, cerddor Edit this on Wikidata
Arddulldark ambient Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.lustmord.com Edit this on Wikidata


Lustmord, Gŵyl Norberg, 2011

O dan yr enw Lustmord mae Williams wedi rhyddhau nifer fawr o recordiau gan gael y clod am fod yn sylfaenydd y genre dark ambient.

Dechreuodd wneud gerddoriaeth ym Mangor yn 1980 gydag Alan Holmes. Dewisodd yr enw Lustmord am ei brosiectau cerddorol ac wedyn symudodd i Lundain ble anogwyd yn y dyddiadau cynnar gan aelodau Throbbing Gristle, cyn ymuno’r grŵp Awstraliaid ‘industrial’, SPK.[1]

Mae o dan y prosiect Lustmord mae Williams wedi gwneud recordiadau maes mewn cryptau, ogofâu a lladd-dai, ac wedi eu cyfuno â swynganeuon seremonïau a gwyntoedd. Mae ei driniaethau o ffenomenau acwstig sy'n cael eu trin yn ddigidol, gan greu sain ddofn a tharanllyd, yn rhoi awyrgylch tywyll i'w gerddoriaeth.

Mae Williams hefyd wedi cyfrannu at 44 o draciau sain ffilm Hollywood (yn fwyaf nodedig The Crow ac Underworld). Mae hefyd wedi creu’r sain ar gyfer nifer o gemau cyfrifiaduron.

Ymddangosodd yn fyw gyntaf yn ei yrfa 25 mlynedd fel rhan o seremoni enfawr a drefnwyd gan Eglwys Satan, a gynhaliwyd ar 6-6-06. Dywedodd Williams fod y cynnig yn "un o'r pethau oedd yn rhy ddoniol i ddweud 'na'!". Perfformiodd Lustmord am yr eildro mewn 29 mlynedd yng Ngŵyl Unsound Kraków ar 22 Hydref 2010.[2][3]

Dychwelodd i Gymru ym mis Tachwedd 2018 i berfformio yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio Bangor fel rhan o’r ŵyl Psylence.[4]

Dolenni golygu

Discograffi golygu

Blwyddyn Teitl Label
1981 Lustmørd Sterile Records, SR 3
1982 Lustmordekay Sterile Records, caset SRC 6
1984 CTI (gyda Chris & Cosey)
1985 Vhutemas / Arechetypi (gyda Graeme Revell)
1986 Paradise Disowned Soleilmoon
1988 Machine Gun (fel T. G. T.) (sengl)
1989 Revo (fel T. G. T.) (sengl)
1990 White Stains (fel T. G. T.)
1990 Heresy Soleilmoon
1991 A Document of Early Acoustic & Tactical Experimentation
1992 The Monstrous Soul Soleilmoon
1992 Psychological Warfare Technology Systems (fel Terror Against Terror)
1993 Crash Injury Trauma (fel Isolrubin BK)
1994 The Place Where the Black Stars Hang Soleilmoon
1994 Trans Plutonian Transmissions (fel Arecibo)
1995 Stalker (gyda Robert Rich) Fathom/Hearts of Space
1996 Strange Attractor/Black Star
1997 Lustmord vs. Metal Beast (gyda Shad T. Scott)
2000 Purifying Fire (collected Works 1996–1998) Soleilmoon
2001 Metavoid Nextera
2002 Law of the Battle of Conquest (gyda Hecate)
2002 Zoetrope Nextera
2003 Master of Orion 3 Quicksilver
2004 Carbon/Core
2004 Pigs of the Roman Empire (gyda Melvins)
2006 Rising (albwm byw)
2007 Juggernaut (gyda King Buzzo)
2008 O T H E R
2008 "D" is for Dubby – The Lustmord Dub Mixes (gan Puscifer)
2009 [ THE DARK PLACES OF THE EARTH ] (ail-gymysgu)
2009 [ T R A N S M U T E D ] (ail-gymysgu)
2009 [ B E Y O N D ] (ail-gymysgu)
2009 [ O T H E R D U B ] (remixes)
2010 Heretic
2011 Songs of Gods And Demons (Collected Works 1994–2007) (Amlgyfranog)
2013 Things That Were (Amlgyfranog)
2013 The Word As Power (album)
2013 Kraków (22 October 2010) (albwm byw)
2014 Stockholm (15 January 2011) (albwm byw)
2015 Vampillia Meets Lustmord (ail-gymsygu)
2016 Dark Matter
2019 First Reformed

Cyfeiriadau golygu