Mary Lloyd Jones

arlunydd Cymreig (ganwyd 1934)

Arlunydd a gwneuthurwr printiau Cymraeg ydy Mary Lloyd Jones (ganed 1934, Pontarfynach, Ceredigion, Cymru)[1] sy'n byw yn Aberystwyth lle mae ei stiwdio. Mae ei gweithiau'n cynnwys techneg aml-haenau sy'n adlewyrchu ei diddordeb mewn esblygiad ieithyddol gan gynnwys marciau cynnar dynol a'r wyddor ogam. Mae hi wedi arddangos ei gweithiau ledled Cymru ac yn rhyngwladol.

Mary Lloyd Jones
Ganwyd1934 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, arlunydd graffig Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.marylloydjones.co.uk/ Edit this on Wikidata

Gwaith golygu

Mynychodd Mary Lloyd Jones Ysgol Celf Caerdydd yn syth ar ôl iddi adael yr ysgol. Ei huchelgais o'i phlentyndod oedd i fod yn artist. Fodd bynnag, ni ddechreuodd arddangos gwaith yn gyhoeddus tan 1966 pan oedd hi'n ei thridegau cynnar.[2] Mae Ceridwen yn esbonio'r blodeuo hwyr hwn drwy nodi ei bod hi'n Gymraes o gefndir gwledig.

Fel mae Lloyd Jones ei hunan yn sylwi, "At times I felt that I belonged to the wrong sex and was living in the wrong time and place to be a successful artist." [2] Ym 1989 gadawodd ei swydd fel Swyddog Celfyddydau Gweledol yn Nyfed er mwyn gweithio fel arlinudd llawn amser.[3] O hynny ymlaen datblygodd gwaith Mary Lloyd Jones i gymryd ffurf canfasau afreolaidd mawr. Roedd y gwaith yn gysylltiedig â lliain, pwytho a llifo-socian y brethyn.[4] Yn hwyrach yn ei bywyd, dychwelodd i ffurfiau mwy traddodiadol o baentio yn ogystal â chreu baneri mawr. Ysbrydolwyd gwaith Lloyd Jones yn fawr gan y tirlun lle magwyd hi, yn enwedig y tirlun sydd wedi'i greithio gan fwyngloddio. Mae ei synnwyr o'r lle hwn yn cael ei ymestyn hefyd gan ei hetifeddiaeth ddiwylliannol Gymraeg. Mae Ann Price-Owen yn cyfeirio ati fel curadur ei etifeddiaeth ddiwylliannol.[5] Serch hynny, mae profiadau tu allan i Gymru wedi darparu cyfnodau allweddol yn natblygiad ei gwaith. Ysgogwyd ei diddordeb yn y gwyddorau cynnar gan ymweliad i Ilkley Moor i weld y marciau Celtaidd sy'n cael eu alw'n 'gwpan a chylch'.[6] Wrth gynnwys y marciau hyn yn ei gwaith datblygodd gysylltiad ysbrydol gyda'r bardd a'r ysgolhaig Iolo Morgannwg a luniodd wyddor farddol ei hun yn ystod y 18g. Enwodd y wyddor hynny'n Goelbren. Ystyriodd Lloyd Jones y defnydd o sgriptiau fel y sgript hynafol Ogam yn ei gwaith fel cyfeirnod cynnil i'r arwahanrwydd Cymreig. Yn Haf 2009 arddangosodd Canolfan Crefft Ruthun waith cynnar tecstil Mary Lloyd-Jones' ac ysgogodd yr arddangosfa ail-werthusiad o'i gwaith o fewn cynulleidfa newydd.[7] Ymddangosodd ail arddangosfa yn 2013 mewn cylchgrawn o o'r enw Embroidery.[8] Yn Chwefror 2013 bu'n artist preswyl cyntaf yn yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth a symudodd i stiwdio newydd yn yr adeilad.[9]

Mae rhai o'i gweithiau yng nghasgliad cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Caerdydd.[10]

Yn Hydref 2014 cyhoeddodd ei hunangofiant, 'No Mod Cons', "golwg fywiog ar ei hymdrechion i ddilyn gyrfa fel artist, ac i wella amodau gwaith artistiaid Cymreig".[11]

Bywyd Personol golygu

Ganed Mary Lloyd Jones yn 1934 yn ferch i deulu o siaradwyr Cymraeg.

Arddangosfeydd unigol[1] golygu

  • 2004 - The Colour of Saying, Oriel Theatr Clwyd
  • 2004 - The Colour of Saying, Llantarnam Grange, Gwent
  • 2005 - Gwaith newydd, Oriel Martin Tinney, Caerdydd
  • 2006 - Iaith Cyntaf, Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • 2009 - Cloth works, Canolfan Rhuthun[9]
  • 2013 - Signs of Life, Canolfan Crefft Ruthun[12]
  • 2014 - A Journey from Devils Bridge, Oriel 1, Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth[13]
  • 2023 - Mary Lloyd Jones, Oriel 1, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth[14]

Cyfnodau Preswyl golygu

Rhestr gan Oriel Martin Tinney.

Llyfrau gan Mary Lloyd Jones golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 BBC Arts Gwefan y BBC; Mary Lloyd Jones, adalwyd 2 Mehefin 2014.
  2. 2.0 2.1 Lloyd Morgan, Ceridwen (2002). Delweddau o'r ymylon: Bywyd a gwaith Mary Lloyd Jones. t. 7. ISBN 0862435579.
  3. Jenkins, Nigel (2001). Singing the landscape= 20. ISBN 1859028691.
  4. Ropek, Eve (2001). The Colour of Saying: Mary Lloyd Jones. t. 10. ISBN 1859028691.
  5. Price Owen, Anne (2006). Mother Tongue: Celebrating the Word in Images=42. ISBN 1843235404.
  6. Price Owen, Anne (2006). Mother Tongue: Celebrating the Word in Images=43. ISBN 1843235404.
  7. Hughes, Hughes (2013). Mary Lloyd Jones: Signs of Life. t. 5.
  8. Bell, Ellen (2013). Mary Lloyd Jones: Signs of Life: Exhibition Review. t. 56.
  9. 9.0 9.1 Mary Lloyd Jones: Signs of Life. 2013. t. 35.
  10. Mary Lloyd Jones paintings Archifwyd 2013-06-25 yn y Peiriant Wayback., BBC Your Paintings. Adalwyd 30 Mehefin 2014.
  11. [1] Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd 27 Rhagfyr 2014.]
  12. Mary Lloyd Jones: Signs of Life. 2013. t. 37.
  13. "Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; adalwyd 27 Rhagfyr 2014". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-11. Cyrchwyd 2014-12-27.
  14. "Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; adalwyd 15 Chwefror 2023". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-15. Cyrchwyd 2023-02-15.

Dolenni allanol golygu