Bardd, awdur, actifydd, ymgyrchwraig gwleidyddol yw Musa Sayegh neu Mai Sayegh (Arabeg: مي الصايغ‎, ganwyd 1940; m. 5 Chwefror 2023); mae hi hefyd yn ffemenist cryf.

May Sayegh
Ganwyd1941 Edit this on Wikidata
Dinas Gaza Edit this on Wikidata
Bu farw5 Chwefror 2023 Edit this on Wikidata
Amman Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Palesteina Palesteina
Alma mater
  • Faculty of Arts at Cairo University Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, bardd, amddiffynnwr hawliau dynol, ymgyrchydd dros hawliau merched, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of Jerusalem Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Sayegh ym 1940 yn ninas Gaza yng ngwlad Palestina pan oedd o dan fandad Lloegr. Enillodd radd Baglor mewn athroniaeth a chymdeithaseg o Brifysgol Cairo.[1] Ym 1954, hi oedd pennaeth adran menywod plaid y Baath yn nhiriogaethau Palestina.[2] Yn dilyn y Rhyfel Chwe Diwrnod ym 1967 a meddiannaeth Llain Gaza, ffodd o Gaza gan ymgartrefu yn Beirut.[3]

Hi oedd ysgrifennydd cyffredinol Undeb Merched Sefydliad Rhyddhad Palestina (y PLO) rhwng 1976 a 1986, ac roedd yn aelod o Gyngor Cenedlaethol Palestina (PNC).[4] Ffurfiwyd Undeb Cyffredinol Menywod Palestina ei hun ym 1965 o ganlyniad i benderfyniad gan y PNC a wnaed ym 1964.[5] Yn adnabyddus am ei safbwyntiau gwrth-Seionaidd cryf, nododd mai nod Palestiniaid yw rhyddhau Palestina a bod "unrhyw Balesteinad a oedd eisiau llai yn fradwr".[6]

O fewn y gymuned Balesteinaidd, mae hi'n eiriolwr di-flewyn-ar-dafod dros hawliau merched yn enwedig drwy eiriol yn wleidyddol, gan alw am gynnwys mwy o fenywod yng Nghyngor Cenedlaethol Palesteina a llunio polisïau. Credai Sayegh fod gwahanu dynion a menywod fel math o wahaniaethu gan ei fod yn y pen draw yn rhoi mwy o sylw i ddynion. Ym 1968, safodd yn erbyn polisi Fatah o ddynion yn arwain menywod yn seiliedig ar ddim ond eu rhyw, ac yn y pen draw arweiniodd at gydraddoldeb ar lawr gwlad.[7]

Mae ei dull beiddgar o rymuso menywod wedi denu beirniadaeth, gydag un sylwebydd ym 1988 yn nodi "mae hi'n gweiddi gormod".[8] Roedd hi'n siaradwr yng Nghynhadledd Merched y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen yn 1980 lle derbyniodd "gymeradwyaeth daranllyd" am ei haraith ar hyrwyddo heddwch, cydraddoldeb a datblygiad. Dywedodd fod canlyniadau'r gynhadledd yn llwyddiant nid yn unig i'r Palesteiniaid ond "i'r holl bobloedd sy'n ymladd yn erbyn hiliaeth, camfanteisio a rheolaeth dramor".[9]

Mae Sayegh hefyd wedi ysgrifennu cerddi am y brwydrau sy'n wynebu menywod yng ngwersylloedd ffoaduriaid Palestina.[10] Cyhoeddwyd ei cherddi mewn cylchgronau Arabaidd amlwg ledled y tiroedd Arabaidd, fel cylchgrawn Al-Adab yn Libanus, cylchgrawn Aqlam yn Irac. Cymerodd ran hefyd mewn gwyliau barddoniaeth ledled y byd gan gynnwys yn Beirut, Baghdad, Dinas Coweit, Oman a Cairo.[11] Mae Sayegh yn briod ag Abu Hatam, swyddog o'r PLO.[12] Mae ganddyn nhw 4 o blant.[13]

Cydnabyddiaeth golygu

Derbyniodd Sayegh wobr Ana Betancourt yn yr 1980au gan arlywydd Ciwba, Fidel Castro.[11]

Mae hi hefyd yn destun 2001 ffilm ddogfen o'r enw Straeon o Gaza (Arabeg: حكيات من غزة‎ ) wedi'i gynhyrchu gan Mer'ah Media a'i gyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilmiau o Libanus Arab Loutfi.[14]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Turki, Fawaz (1988). Soul in Exile (yn Saesneg). NYU Press. tt. 13–14. ISBN 9780853457473. Cyrchwyd 5 November 2019.
  2. Pappe, Ed (1999). The Israel/Palestine Question (yn Saesneg). Psychology Press. t. 220. ISBN 9780415169486. Cyrchwyd 5 November 2019.
  3. "The Jerusalem Post Magazine" (yn English). 1980. Cyrchwyd 5 November 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. "مي الصايغ (in Arabic)". www.culture.gov.jo. وزارة الثقافة. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-08. Cyrchwyd 5 November 2019.
  5. Pappe, Ed (1999). The Israel/Palestine Question (yn Saesneg). Psychology Press. t. 220. ISBN 9780415169486. Cyrchwyd 5 November 2019.Pappe, Ed (1999). The Israel/Palestine Question. Psychology Press. p. 220. ISBN 9780415169486. Retrieved 5 November 2019.
  6. Kleinmann, Elliott (19 December 1980). "PLO is terrorist organization, foe of Israel and United States" (PDF). Daily Iowan. Cyrchwyd 5 November 2019.
  7. Matos, Christine De; Ward, Rowena (2012). Gender, Power, and Military Occupations: Asia Pacific and the Middle East since 1945 (yn Saesneg). Taylor & Francis. t. 202. ISBN 9781136339349. Cyrchwyd 5 November 2019.
  8. "Women in the PLO: rifles, fatigues, but no veils". Christian Science Monitor. 31 July 1981. Cyrchwyd 5 November 2019.
  9. "UN Women's Conference a Success for Progress". University of Arizona Library. Kabul New Times. 2 August 1980. Cyrchwyd 5 November 2019.
  10. Abdulrezak, Amal (2007). Contemporary Arab American Women Writers: Hyphenated Identities and Border Crossings (yn Saesneg). Cambria Press. t. 136. ISBN 9781621969570. Cyrchwyd 5 November 2019.
  11. 11.0 11.1 "مي الصايغ (in Arabic)". www.culture.gov.jo. وزارة الثقافة. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-08. Cyrchwyd 5 November 2019."مي الصايغ (in Arabic)" Archifwyd 2018-03-08 yn y Peiriant Wayback.. www.culture.gov.jo. وزارة الثقافة. Retrieved 5 November 2019.
  12. Turki, Fawaz (1988). Soul in Exile (yn Saesneg). NYU Press. tt. 13–14. ISBN 9780853457473. Cyrchwyd 5 November 2019.Turki, Fawaz (1988). Soul in Exile. NYU Press. pp. 13–14. ISBN 9780853457473. Retrieved 5 November 2019.
  13. "The Jerusalem Post Magazine" (yn English). 1980. Cyrchwyd 5 November 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)"The Jerusalem Post Magazine". 1980. Retrieved 5 November 2019.
  14. "Arab Loutfi". Arab Women in Films. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-03. Cyrchwyd 5 November 2019.