Modest Mussorgsky

cyfansoddwr a aned yn 1839

Cyfansoddwr Rwsiaidd oedd Modest Petrovich Mussorgsky (hefyd Musorgsky, Moussorgsky, Rwseg: Модест Петрович Мусоргский, sef Modest Petrovič Musorgskij) (21 Mawrth, 183928 Mawrth, 1881), un o'r grŵp o gyfansoddwyr a adnabyddir fel 'Y Pump' a adfywiodd gerddoriaeth Rwsia yn y cyfnod Rhamantaidd. Ceisiai ddarganfod arddull cerddorol unigryw Rwsiaidd, yn aml trwy fynd yn fwriadol yn groes i gonfensiynau cerddoriaeth glasurol Ewrop.

Modest Mussorgsky
Ganwyd9 Mawrth 1839 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Karevo, Pskov Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mawrth 1881 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Nikolaevskaya Cavalry school
  • Ysgol Sant Pedr Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, pianydd, libretydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBoris Godunov, Pictures at an Exhibition, Night on Bald Mountain Edit this on Wikidata
Arddulldrama, cerddoriaeth glasurol, opera Edit this on Wikidata
llofnod
Mussorgsky yn 1881, ychydig cyn ei farw. Portread gan Ilya Repin.

Cafodd ei eni mewn pentref ger Toropets (yn Oblast Tver heddiw).

Ysbrydolwyd nifer o'i weithiau gan hanes Rwsia a'i llên gwerin ac mae cenedlaetholdeb Rwsiaidd yn elfen amlwg yn ei waith, sy'n cynnwys yr opera Boris Godunov, 'Noson ar Y Mynydd Moel', a'r suite i'r piano Lluniau mewn Arddangosfa (Pictures at an Exhibition).

Bu farw yn St Petersburg.


Baner RwsiaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.