Morgan Tsvangirai

Prif Weinidog Simbabwe o 11 Chwefror 2009 hyd 11 Medi 2013 oedd Morgan Richard Tsvangirai (10 Mawrth 195214 Chwefror 2018). Ef oedd Llywydd y Mudiad am Newid Democrataidd - Tsvangirai (Saesneg: Movement for Democratic Change – Tsvangirai (MDC-T)) a roedd yn ffigwr blaenllaw ymysg gwrthwynebwyr Arlywydd Robert Mugabe. Daeth Tsvangirai yn Brif Weinidog Simbabwe ar yr 11 Chwefror, 2009. Ar y 6 Mawrth, tra'n teithio i'w gartref gwledig ym Buhera, bu mewn damwain car a chafodd anafiadau nad oedd yn ddifrifol. Fodd bynnag, lladdwyd ei wraig Susan Tsvangirai yn y gwrthdrawiad â char arall.

Morgan Tsvangirai
Ganwyd10 Mawrth 1952 Edit this on Wikidata
Gutu Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 2018 Edit this on Wikidata
Johannesburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa, De Rhodesia, Rhodesia, Zimbabwe Rhodesia, Simbabwe Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, amddiffynnwr hawliau dynol, undebwr llafur Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Simbabwe, Member of the National Assembly of Zimbabwe Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolMovement for Democratic Change – Tsvangirai Edit this on Wikidata
PriodSusan Tsvangirai Edit this on Wikidata
llofnod

Tsvangirai oedd ymgeisydd y Mudiad am Newid Democrataidd yn etholiad arlywyddol dadleuol 2002, pan gollodd i Mugabe. Yn ddiweddarach, ymgeisiodd yn rownd gyntaf etholiad arlywyddol 2008 fel yr ymgeisydd y Mudiad am Newid Democrataidd - Tsvangirai, gan gipio 47.8% o'r bleidlais yn ôl canlyniadau swyddogol, gan ei osod o flaen Mugabe, a dderbyniodd 43.2% o'r bleidlais. Honnodd Tsvangirai iddo ennill mwyafrif gan ddweud y gellid fod wedi newid y canlyniadau yn ystod y mis rhwng yr etholiad a phan gyhoeddwyd y canlyniadau swyddogol. Yn wreiddiol, bwriadodd Tsvangirai sefyll yr ail rownd yn erbyn Mugabe, ond tynnodd ei enw yn ôl ychydig cyn yr etholiad, gan ddadlau na fyddai etholiad yn rhydd nac yn deg yn sgîl y trais a welwyd a'r bygythiadau parhaus gan gefnogwyr y llywodraeth.

Marwolaeth golygu

Ar 6 Chwefror 2018, cyhoeddwyd bod Tsvangirai yn ddifrifol wael yn yr ysbyty yn Ne Affrica. Dywedodd llefarydd yr MDC y dylai "disgwyl y gwaethaf".[1] Bu farw wyth diwrnod yn ddiweddarach. Cyhoeddwyd ei farwolaeth gan Elias Mudzuri, uwch swyddog yn y blaid. Tybir mai achos ei farwolaeth oedd canser colorectaidd.[2]

  Eginyn erthygl sydd uchod am Simbabwe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Zimbabwe's opposition leader Morgan Tsvangirai 'critically ill'". BBC News. 6 Chwefror 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Chwefror 2018. Cyrchwyd 6 Chwefror 2018. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Zimbabwe opposition leader Tsvangirai dies". BBC News (yn Saesneg). 14 Chwefror 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Chwefror 2018. Cyrchwyd 14 Chwefror 2018. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)