Morris Davies (golygydd)

llenor, awdurdod ar emynyddiaeth, a cherddor

Cerddor, awdur ac emynwr o ardal Ffestiniog oedd Morris Davies (Hydref 179610 Medi 1876). Roedd ganddo gryn dipyn o ddiddordeb mewn: llenyddiaeth, barddoni a chelfyddydau perfformio. Derbyniodd ei addysg yn ysgol Dinas Mawddwy, a fe gafodd yr Ysgol Sul ddylanwad mawr arno hefyd.[1]

Morris Davies
GanwydHydref 1796 Edit this on Wikidata
Mallwyd Edit this on Wikidata
Bu farw10 Medi 1876 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethawdur, cerddor Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Morris Davies yn fab i ffarmwr o ardal Ffestiniog ond yn annhebyg i'w dad, nid oedd ganddo ddiddordeb yn y byd amaethyddiaeth. Yn 1819 penderfynodd ymroi i waith ysgolfeistr, ac aeth i addysgu yn un o ysgolion William Owen ger Y Trallwng. Wedi chwe blynedd yno, symudodd i Lanfyllin hyd at 1836. Gwnaed ef yn glerc i gwmni cyfreithiol yn 1836, a hynny ger Llanfyllin. Yna, yn 1849 aeth ymlaen i Fangor i barhau i fod yn glerc. Yn wir, teithiwr o fri oedd Morris Davies ond serch hynny, llwyddodd i gyflawni darnau llenyddiaeth a cherddoriaeth o safon uchel iawn. Roedd ei waith yn cynnwys cyfieithiadau o lyfrynau crefyddol, darnau o Y Traethodydd a'r Gwyddoniadur.

Ffynonellau golygu

  • Y Traethodydd, 1877, 217-44, 359-75 (gan Daniel Rowlands, Bangor, yn helaeth iawn, ac yn cynnwys atgofion Morris Davies ei hunan);
  • Y Geninen (Gŵyl Ddewi), 1891, 30-7;
  • J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid (1945), 1945.

Cyfeiriadau golygu

  1. "DAVIES, MORRIS (1796 - 1876), llenor, awdurdod ar emynyddiaeth, a cherddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-26.