Mynydd Eilian

bryn (177m) ar Ynys Môn

Bryn ar Ynys Môn yw Mynydd Eilian. Copa Mynydd Eilian yw'r bryn ail uchaf ar yr ynys, 177 medr o uchder (ar ôl Mynydd Bodafon, 178 medr) a'r trydydd uchaf yn y sir (Mynydd Twr ar Ynys Gybi, 220 medr, yw'r uchaf); cyfeiriad grid SH472917. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 59metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Mynydd Eilian
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr177 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.40018°N 4.29849°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH4728691724 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd123 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMynydd Bodafon Edit this on Wikidata
Map

Saif y bryn yng ngogledd-ddwyrain yr ynys, i'r de o bentref Llaneilian ac i'r de-ddwyrain o bentref Pengorffwysfa.

Y copa golygu

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 177m (581tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 8 Mehefin 2009.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu