Dinas yn ne-orllewin Ffrainc yw Narbonne (Catalaneg ac Occitaneg: Narbona). Saif yn département Aude yn région Languedoc-Roussillon. Ar un adeg roedd yn bothladd prysur, ond erbyn hyn mae tua 15 km o'r môr.

Narbonne
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth56,395 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJacques Bascou Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Aosta, Grosseto, Salford, Weilheim in Oberbayern Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sirarrondissement of Narbonne, canton of Narbonne-Est, canton of Narbonne-Ouest, canton of Narbonne-Sud, Le Grand Narbonne, Aude Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd172.96 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr285 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Aude Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArmissan, Bages, Bizanet, Coursan, Cuxac-d'Aude, Fleury, Gruissan, Marcorignan, Montredon-des-Corbières, Moussan, Névian, Port-la-Nouvelle, Peyriac-de-Mer, Saint-André-de-Roquelongue, Vinassan Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.1847°N 3.0036°E Edit this on Wikidata
Cod post11100 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Narbonne Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJacques Bascou Edit this on Wikidata
Map
Eglwys gadeiriol Narbonne

Sefydlwyd y ddinas fel trefedigaeth Rufeinig Colonia Narbo Martius yn 118 CC, ar y Via Domitia, y ffordd Rufeinig gyntaf yng Ngâl. Yn ddiweddarach, sefydlodd Iŵl Cesar gyn-filwyr o'i leng Legio X Gemina yno. Rhoddodd y ddinas ei henw i dalaith Rufeinig Gallia Narbonensis.

Dan y Fisigothiaid bu'n brifddinas talaith Septimania, yna am gyfnod yn rhan o Emirat Cordoba nes iddi gael ei chipio gan y Ffranciaid dan Pepin Fychan yn 759. Yn ddiweddarach daeth y ddinas yn llai pwysig, yn rhannol oherydd i Afon Aude newid ei chwrs. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 46,510.

Adeiladau golygu

  • Eglwys gadeiriol St-Just
  • Halles de Narbonne
  • Horreum
  • Palais des Archevêques (Palas Archesgob)
  • Via Domitia

Pobl enwog o Narbonne golygu