Ymgyrchydd hinsawdd Archentaidd yw Nicole Becker (g. 2001?) sy'n enedigol o Buenos Aires.[1]

Nicole Becker
Nicole yn Ebrill 2020
Ganwyd4 Ionawr 2001 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Buenos Aires
  • ORT Argentina Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd hinsawdd, communicator Edit this on Wikidata

Yn Ebrill 2020 roedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Buenos Aires (Universidad de Buenos Aires, UBA), yn astudio seicoleg, pan ddeallodd bod newid hinsawdd yn fater cymdeithasol, ac nid yn un amgylcheddol yn unig. Yn y fan a'r lle, newidiodd ei gradd o Seicoleg i Gyfraith Ryngwladol.[2]

Cyd-sefydlodd fudiad o'r enw 'Yr Ifanc dros yr Hinsawdd' (Jovenes Por El Clima), sy'n dadlau o safbwynt America Ladin a hawliau dynol. Yn 2019, fe wnaethant llwyddodd y mudiad i gael y wlad i ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol ac i gymeradwyo’r Gyfraith Newid Hinsawdd gyntaf. Yn 2020, ar Diwrnod y Ddaear (22 Ebrill) trefnodd y mudiad ymgyrch dros y we i ddod a mwy o sylw i'r ymgyrch i atal newid hinsawdd; daeth llawer o fudiadau at ei gilydd, yn bennaf i ganolbwyntio ar newid meddyliau archentwyr yr Ariannin.

Mae America Ladin yn rhanbarth lle mae ecsbloetio ein tir yn dod yn bennaf gan gwmnïau trawswladol (hy nid o'r Ariannin ei hun), sy'n mynd â'r arian yn ôl i'w gwledydd ac yn gadael y difrod amgylcheddol a chymdeithasol yma. ... Credaf fod gennym gyfle nawr i greu math newydd o ddiwydiannau oherwydd gwelwn na weithiodd yr hen fodel, ac arweiniodd ni at yr argyfwng amgylcheddol ac ecolegol yr ydym ynddo. Mae gennym her enfawr, sef sicrhau nad yw'r amgylchedd yn cael ei ystyried yn fygythiad i'r economi.

Fe'i hysbrydolwyd gan Greta Thunberg ac mae wedi ymweld a llawer o wledydd gan gynnwys Sbaen i ddadlau dros ei hachos. Dywedodd ym Madrid yn Rhagfyr 2019:[3]

Mae yna lawer o dlodi yn yr Ariannin, ac mae ganddo gysylltiad â newid hinsawdd.

Ar 4 Mai 2021 yn 12fed Deialog Hinsawdd Petersberg, a drefnwyd gan y Cenhedloedd Unedig, ar y thema 'Glanweithdra a Dŵr i Bawb', cyhoeddodd Nicole Becker, alwad o argyfwng i wledydd weithredu i gysylltu lliniaru hinsawdd (climate mitigation) gyda dŵr a glanweithdra.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. globalclimatestrike.net; Archifwyd 2021-05-27 yn y Peiriant Wayback. cyhoeddwyd 21 Ebrill 2022; adalwyd 27 Mai 2021.
  2. thejakartapost.com; Teitl: Young people take to the streets for climate: Who are they?; cyhoeddwyd 9 Rhagfyr 2019.
  3. thejakartapost.com; Teitl: Young people take to the streets for climate: Who are they?; cyhoeddwyd 9 Rhagfyr 2019.
  4. sanitationandwaterforall.org; adalwyd 27 Mai 2021.