Mae O Law i Law yn nofel Gymraeg gan T. Rowland Hughes, am fywyd chwarelwyr a'u teuluoedd mewn pentref chwarel llechi yng ngogledd Cymru. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn 1943.

Mae'r teitl yn fenthyciad o'r ymadrodd adnabyddus "(byw) o law i law", ac yn cyfeirio at galedi bywyd y chwarelwyr, ond mae'n drosiad hefyd sy'n adlewyrchu un arall o brif themau'r nofel, bod diwylliant a gwerthoedd yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth er gwaethaf pawb a phopeth.

Bu hefyd yn un o'r llyfrau Cymraeg cyntaf i'w recordio fel llyfr llafar ar gyfer y deillion. Gwnaed hynny gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn yr 1960au cynnar.[1]

Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. "Pwy Ydym Ni". Gwefan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru. Cyrchwyd 27 Ebrill 2023.