Patricia Bredin

actores a aned yn 1935

Cantores yw Patricia Bredin (ganed 14 Chwefror 1935 yn Hull, Lloegr; m. 13 Awst 2023 yn Nova Scotia, Canada). Hi oedd cynrychiolydd cyntaf y Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 1957. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Frankfurt, yr Almaen a daeth yn seithfed allan o ddeg cystadleuydd gwahanol. Enw ei chân oedd "All", a dyma oedd y gân gyntaf erioed i gael ei chanu yn Saesneg yn yr Gystadleuaeth Cân Eurovision. Yn ôl "The Eurovision Song Contest - The Official History" gan John Kennedy O'Connor, ei pherfformiad hi oedd y perfformiad byrraf erioed, yn para 1:52 yn unig.[1]

Patricia Bredin
Ganwyd14 Chwefror 1935 Edit this on Wikidata
Kingston upon Hull Edit this on Wikidata
Bu farw13 Awst 2023 Edit this on Wikidata
Nova Scotia Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr, nofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodIvor Emmanuel Edit this on Wikidata

Priododd y canwr Ivor Emmanuel yn 1964, ond ysgarodd y ddau yn 1966.

Cyfeiriadau golygu

  1. The Eurovision Song Contest - The Official History, John Kennedy O'Connor. Carlton Books, UK, 2007. ISBN 978-1-84442-994-3