Pedair Afon Paradwys

Yn ôl y traddodiad Beiblaidd a geir yn Llyfr Genesis roedd Pedair Afon Paradwys yn llifo allan i'r byd o Ardd Eden. Yn yr ardd honno, y Baradwys Ddaearol, mae Afon Eden. Wrth i'r afon honno lifo allan o ardd Baradwys roedd hi'n ymrannu'n bedair ffrwd, sef afonydd Pishon (neu 'Pison'), Gihon, Hidecel ac Ewffrates:

'Yr oedd afon yn llifo allan o Eden i ddyfrhau'r ardd, ac oeddi yno yr oedd yn ymrannu'n bedair. Enw'r afon gyntaf yw Pison; hon sy'n amgylchu holl wlad Hafila, lle y ceir aur; y mae aur y wlad honno'n dda, ac yno y ceir bdeliwm a'r maen onyx. Enw'r ail yw Gihon; hon sy'n amgylchu holl wlad Ethiopia. Ac enw'r drydedd yw Hidecel; hon sy'n llifo o'r tu dwyrain i Asyria. A'r bedwerydd afon yw Ewffrates.' (Gen 2:10-14 yn Y Beibl Cymraeg Newydd)

Roedd Afon Pishon yn amgylchynu gwlad Hafila (Arabia), lle roedd aur, onyx a resin aromataidd i'w cael. Llifai Gihon o gwmpas gwlad Kush (Yr Aifft uchaf) neu Ethiopia; diau mai Afon Nîl a olygid. Mae lle i gredu fod Hidecel neu 'Hiddekel' yn enw hynafol ar Afon Tigris ym Mesopotamia lle ceir y pedwaredd afon, Ewffrates. Mae mapiau o'r Oesoedd Canol yn dangos y pedair afon hyn.