Plaid wleidyddol adain-dde boblyddol yn y Ffindir yw Plaid y Ffiniaid (Ffinneg: Perussuomalaiset, Swedeg: Sannfinländarna; yn llythrennol "Ffiniaid Cyffredin" neu "Wir Ffiniaid").

Plaid y Ffiniaid
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
Idiolegright-wing populism, social conservatism, Euroscepticism, Finnish nationalism, national conservatism, economic nationalism Edit this on Wikidata
Label brodorolPerussuomalaiset Edit this on Wikidata
Rhan oEuropean Conservatives and Reformists Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu11 Mai 1995 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganFinnish Rural Party Edit this on Wikidata
Yn cynnwysPerussuomalainen, Q11887584, Finns Party Youth, Perusäijät Edit this on Wikidata
SylfaenyddTimo Soini Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolMovement for a Europe of Liberties and Democracy, Identity and Democracy Party Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolQ125568935 Edit this on Wikidata
PencadlysHelsinki Edit this on Wikidata
Enw brodorolPerussuomalaiset Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://perussuomalaiset.fi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r blaid yn arddel cenedlaetholdeb Ffinnaidd, ceidwadaeth gymdeithasol, ac ewrosgeptigiaeth, yn dymuno cyfyngu ar fewnfudo, ac yn cynnig cyfuniad o bolisïau economaidd yr adain dde a'r adain chwith, gyda phwyslais ar genedlaetholdeb economaidd a'r wladwriaeth les. O ran polisi iaith, mae nifer o aelodau seneddol y blaid yn rhan o fudiad i droi'r Ffindir yn wlad unieithog, gan ddyrchafu'r Ffinneg yn unig iaith swyddogol y wlad. Er enghraifft, mae nifer ohonynt yn galw am atal addysg Swedeg orfodol mewn ysgolion.[1]

Sefydlwyd y Gwir Ffiniaid ym 1995 yn sgil diddymu'r Blaid Wledig Ffinnaidd, plaid amaethol boblyddol.

Hanes golygu

Gellir olrhain gwreiddiau'r blaid yn ôl i benderfyniad Veikko Vennamo, aelod o'r Gynghrair Amaethol (bellach Plaid y Canol), ym 1959 i ymddiswyddo o'r llywodraeth a gadael ei blaid i wrthdystio cysylltiadau'r Arlywydd Urho Kekkonen gyda'r Undeb Sofietaidd (Athrawiaeth Paasikivi–Kekkonen). Sefydlodd Vennamo y Blaid Wledig Ffinnaidd ym 1966, ar sylfaen cefnogaeth y tyddynwyr a gwrth-gomiwnyddiaeth.

Chwalodd y Blaid Wledig ym 1995, a sefydlwyd Plaid y Ffiniaid i'w holynu. Daeth Timo Soini yn arweinydd y blaid ym 1997. Ni châi'r blaid fawr o lwyddiant nes adladd yr argyfwng ariannol yn 2007–08 a chychwyn yr argyfwng dyled sofran yn ardal yr ewro yn 2009–10. Dadleuodd Soini bod llywodraeth y Ffindir yn twyllo'r bobl trwy wario arian i achub economïau gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn 2011, enillodd y blaid 39 o'r 200 o seddau yn y senedd.

Yn 2015, enillodd 38 o seddau, ac ymunodd â llywodraeth glymblaid gyda Phlaid y Canol. Gwasanaethodd Soini yn ddirprwy brif weinidog y Ffindir o Fai 2015 i Fehefin 2017, ac yn weinidog tramor o Fai 2015 i Fehefin 2019. Wedi i Jussi Halla-aho olynu Soini yn arweinydd ym Mehefin 2017, holltodd y blaid. Parhaodd yr encilwyr yn rhan o'r llywodraeth, dan yr enw "Diwygiad Glas", ac aeth trwch y blaid yn wrthblaid gyda 17 o seddau. Cynyddodd y nifer o seddau i 39 yn sgil etholiad seneddol 2019.

Etholwyd Riikka Purra yn arweinydd y blaid yn Awst 2021.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Who are the nationalist Finns Party?", BBC (11 Mai 2015). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2023.