Richard Bryn Williams

awdur
(Ailgyfeiriad o R. Bryn Williams)

Llenor, bardd, hanesydd a dramodydd oedd Richard Bryn Williams neu R. Bryn Williams (1902 - 1981), a aned ym Mlaenau Ffestiniog yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd).

Richard Bryn Williams
Ganwyd1902 Edit this on Wikidata
Blaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
Bu farw1981 Edit this on Wikidata
Man preswylTrelew Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, hanesydd, bardd Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Aeth gyda'i rieni i fyw yn Nhrelew yn Chubut, Patagonia, yn fachgen saith mlwydd oed. Dychwelodd i Gymru yn 1923 ac astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Daeth yn arbenigwr ar hanes Y Wladfa ac yn gyfrannwr mawr i lenyddiaeth y dalaith honno.

Cefnogai'r Eisteddfod Genedlaethol a chystadlu ynddi. Enillodd y Gadair yn 1964 a 1968 a bu'n archdderwydd o 1975 hyd 1978. Mae bron y cyfan o'i waith yn adlewyrchu bywyd y Wladfa a'i hanes. Roedd yn awdur toreithiog.

Gwaith llenyddol golygu

 
Siaced lwch Straeon Patagonia (1946) gan R. Bryn Williams

Llyfrau plant golygu

  • Straeon Patagonia (1944)
  • Y March Coch (1954)
  • Bandit yr Andes (1956)
  • Croesi'r Paith (1958)
  • Yn Nwylo'r Eirth (1967)
  • Y Rebel (1969)
  • Agar (1973)
  • Y Gwylliaid (1976)

Barddoniaeth golygu

  • Pentewynion (1949)
  • Patagonia (1965)
  • O'r Tir Pell (1972)

Dramâu golygu

  • Pedrito (1947)
  • Cariad Creulon (1970)
  • Dafydd Dywysog (1975)

Hanes, astudiaethau a llyfrau eraill golygu

  • Cymry Patagonia (1942)
  • Eluned Morgan: bywgraffiad a detholiad (1945)
  • Y Wladfa (1962)
  • Gwladfa Patagonia 1865-1965 (1965). Hanes y Wladfa.
  • Atgofion o Batagonia (1980).
  • Crwydro Patagonia (1960). Arweinlyfr.
  • Taith i Sbaen (1949). Llyfr taith.
  • Teithiau Tramor (1970). Llyfr taith.
  • Prydydd y Paith (1983). Hunangofiant (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth).