Arweinydd ysbrydol ac athro crefyddol yn Iddewiaeth yw rabi, un a awdurdodwyd trwy ei astudiaeth o'r Beibl Hebraeg a'r Talmwd i ddysgu, i esbonio, ac i reoli yn ôl deddf draddodiadol yr Iddewon.[1]

Rabi
Enghraifft o'r canlynolJewish religious occupation, teitl anrhydeddus, galwedigaeth Edit this on Wikidata
Matharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

I ddod yn rabi, âi'r myfyriwr i ysgol ddiwinyddol—yr yeshiva—i gael ei hyfforddi'n drylwyr mewn addysg Iddewig ac arweinyddiaeth grefyddol. Mae'r gofynion a chymwysterau penodol i ddod yn rabi yn amrywio yn ôl enwadau'r grefydd, er enghraifft Uniongrededd, Ceidwadaeth, Diwygiadaeth, ac Adferiadaeth.

Mae gan rabïaid swyddogaethau pwysig ym mywyd y gymuned Iddewig, trwy gynnig cyngor a chefnogaeth i unigolion a theuluoedd, a gweinyddu seremonïau gan gynnwys priodasau, angladdau, a'r bar mitzvah a'r bat mitzvah. Mae nifer o rabïaid yn arweinwyr mewn synagogau neu gynulleidfaoedd Iddewig, neu yn gwasanaethu megis caplaniaid, mewn prifysgolion, ysbytai, y lluoedd arfog, ac ati.

Mae'r ffurf Gymraeg rabi yn dyddio'n ôl i'r 16g, yn Kynniver Llith a Ban (1551) gan William Salesbury.[1] Y ffurf rabbi a geir ym Meibl 1588, er enghraifft Mathew 23:7–8: "A chyfarch yn y marchnadoedd, a'u galw gan ddynion, Rabbi, Rabbi. Eithr na'ch galwer chwi Rabbi : canys un yw eich Athraw chwi, sef Crist ; a chwithau oll brodyr ydych." Yn y cyd-destun hwnnw, teitl o barch a roddid i Iesu Grist gan ei ddilynwyr oedd yr enw, yn yr ystyr gyffredinol o athro ac arweinydd ysbrydol.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  rabi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 14 Mehefin 2023.