Cyfrwng ar gyfer newid pethau yng ngorllewin Cymru yw Radio Beca.

Radio Beca
Ardal DdarlleduPenfro, Caerfyrddin a Cheredigion
Pencadlys2 Bryn Salem, Lampeter, Dyfed SA48 8AE
Perchennog Cwmni cydweithredol
Gwefanwww.radiobeca.cymru

Mae'n darlledu drwy sawl cyfrwng gwahanol, gan gynnwys ar y we. Mae modd i bawb yn y gorllewin ddefnyddio radio Beca i ddarlledu unrhyw beth sy'n bwysig iddyn nhw a defnyddio cyfryngau Beca i ledu'r negeseuon hynny ymhellach. Mae radio Beca'n hyfforddi pobol yn eu cymdogaethau i ddefnyddio'r gliniadur, yr i-phone a'r i-pad ar gyfer creu rhaglenni yn lleol i'w darlledu ar draws tonfeddi radio Beca.

Caiff yr orsaf ei hariannu drwy dâl aelodaeth o ganpunt. Cyfarwyddwr cynta'r cwmni oedd Dylan Euros Lewis.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am radio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.