Rheilffordd De Cymru

Aeth Rheilffordd De Cymru o Grange Court, yn ymyl Caerloyw, i Neyland.

Ymgorfforwyd y theilffordd ym 1845 i fynd o Gaerloyw i Abergwaun, ond o'r diwedd penderfynwyd mynd i Neyland. Pasiwyd deddf ar 4 Awst 1845. Cytunwyd yn 1946 gan Reilffordd y Great Western i logi'r rheilffordd os cyrhaeddwyd Abergwaun. Agorwyd lein rhwng Cas-gwent ac Abertawe ar 18 Mehefin 1850.[1] Estynnwyd y lein i Gaerfyrddin ar 11 Hydref 1852. Cwblhawyd pont dros Afon Gwy yng Nghas-gwent yng Ngorffennaf 1852. Estynnwyd y lein o Gaerfyrddin i Hwlffordd ar 2 Ionawr 1854, ac i Neyland ar 15 Ebrill 1856. Daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd y Great Western ar 1 Awst 1863,[2]

Cyfeiriadau golygu