Robert Robinson
Cyflwynydd teledu a radio Seisnig oedd Robert Robinson (17 Rhagfyr 1927 - 12 Awst 2011)[1]. Cyflwynodd nifer o raglenni gan gynnwys: Points Of View, Call My Bluff, Ask the Family, BBC-3 a Take It Or Leave It ar deledu BBC. Ar y radio, cyflwynodd Brain of Britain.
Robert Robinson | |
---|---|
Ganwyd | Robert Henry Robinson 17 Rhagfyr 1927 Lerpwl |
Bu farw | 12 Awst 2011 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, nofelydd, cyflwynydd teledu |
Cyflogwr | |
Plant | Lucy Robinson |
Roedd hefyd yn golofnydd papur newydd, gan gynnwys: Sunday Chronicle, y Sunday Graphic, y Sunday Times (adolygydd radio a golygydd Atticusus) a'r Sunday Telegraph (adolygydd ffilm). Roedd hefyd yn awdur nifer o lyfrau ar ddarlledu.
Llyfrau golygu
- Inside Robert Robinson (newyddiaduraeth)
- The Dog Chairman (newyddiaduraeth)
- Prescriptions of a Pox Doctor's Clerk (newyddiaduraeth)
- Landscape with Dead Dons (nofel)
- The Conspiracy (nofel)
- Bad Dreams (nofel)
- The Everyman Book of Light Verse (golygydd)
- Skip All That (1997) (hunangofiant)
Cyfeiriadau golygu
- ↑ [^ http://www.telegraph.co.uk/news/obituaries/culture-obituaries/tv-radio-obituaries/8699379/Robert-Robinson.html Archifwyd 2011-08-14 yn y Peiriant Wayback. gwefan papur y Telegraph; adalwyd 14-08-2011]