Sadwrn (planed)

y 6ed blaned o'r Haul

Sadwrn (symbol: ♄), a'i gylchoedd amlwg, yw ail blaned fwyaf Cysawd yr Haul. Mae'n blaned o nwy yn hytrach nag o graig. ydy'r ail fwya o'r planedau a'r chweched o'r haul (neu'r 7fed erbyn hyn os derbynir yr argymhelliad diweddar bod Ceres, y mwyaf o'r asteroidau, yn blaned).

Sadwrn
Sadwrn
Symbol ♄
Nodweddion orbitol
Pellter cymedrig i'r Haul 9.539 US
Radiws cymedrig 1,426,725,400km
Echreiddiad 0.05415060
Parhad orbitol 378.1d
Buanedd cymedrig orbitol 9.6724 km s−1
Gogwydd orbitol 2.48446°
Nifer o loerennau 31
Nodweddion materol
Diamedr cyhydeddol 120,536 km
Arwynebedd 4.32×1010km2
Más 5.688×1026 kg
Dwysedd cymedrig 0.69 g cm−3
Disgyrchiant ar yr arwyneb 8.96 m s−2
Parhad cylchdro 10a 13m 59e ar yr arwyneb

10a 39m 25e mewnol

Gogwydd echel 26.73°
Albedo 0.47
Buanedd dihangfa 35.49 km s−1
Tymheredd ar yr arwyneb:
isafrif cymedrig uchafrif
82K 143K ...
Nodweddion atmosfferig
Gwasgedd atmosfferig 140kPa
Hydrogen >93%
Heliwm >5%
Llosgnwy 0.2%
Anwedd dŵr 0.1%
Amonia 0.01%
Ethan 0.0005%
Ffosffin 0.0001%

Sadwrn hefyd yw'r pellaf o'r planedau a ellir eu gweld â llygaid noeth, yn gorwedd 938 miliwn o filltiroedd o'r haul ac yn cymryd 29.5 o flynyddoedd i gylchdroi amdano. Blwyddyn Sadyrnaidd go hir felly ond mae ei ddydd yn fyr – 10 awr i droi ar ei echel. Golyga'r troelli dyddiol cyflym yma, a chyfansoddiad hylifol yn bennaf, ei fod yn taflu allan rhywfaint am ei ganol, fel ei fod 10% yn fwy ar ei draws nag ydy o'r de i'r gogledd.

Y duw golygu

Enwyd y blaned ar ôl Sadwrn, duw amaeth ym mytholeg Rufeinig. Roedd y duw Groegaidd cysylltiedig, Cronos, yn fab i Wranws a Gaia ac yn dad i Zews (Iau) a Poseidon (Neifion). Mae'r duw hwn hefyd yn gysylltiedig ag amser a henaint.

Y Cewri Nwy golygu

Ar y cyd â Iau, Neifion ac Iwranws mae Sadwrn yn aelod o deulu o 4, y "cewri nwy". Mae tua 95 gwaith mwy na'r ddaear ac, fel y cewri nwy eraill, wedi ei gyfansoddi yn bennaf o heidrogen a heliwm, gyda chyfran fechan o nwyon eraill ar ffurf methên ag amonia'n bennaf yn yr atmosffêr tennau allanol. Wrth deithio tua'r canol byddai rywun yn suddo i fôr o hydrogen a heliwm hylifol fyddai'n newid wrth i'r pwysedd a'r tymheredd gynnyddu i ffurf fetalaidd hylifol yn amgylchynnu cnewyllyn bychan creigiog. Rhyfedd meddwl y byddai Sadwrn, er ei fod cymaint mwy o faint na'r ddaear, yn llai o ran dwysedd ar gyfartaledd. Golyga hynny y buasai'n nofio ar un o foroedd y ddaear – petae un digon mawr.

Darganfod golygu

Gwybuwyd am Sadwrn ers amserau cyn-hanesyddol; Galileo oedd y cyntaf i edrych arno gyda thelesgop ym 1610. Roedd arsylwadau cynnar yn gymhleth gan y ffaith bod y Ddaear weithiau yn pasio trwy blân modrwyau Sadwrn wrth i Sadwrn droi ar ei gylchdro. Cafodd geometreg modrwyau Sadwrn eu hegluro gan Christian Huygens ym 1659.

Ymchwilyddion golygu

Sadwrn oedd y blaned gyntaf i gael ei hymweld â hi gan Pioneer 11 ym 1979 ac wedyn gan Voyager 1 a Voyager 2. Cyrhaeddodd Cassini (prosiect ar y cyd gan NASA ac ESA) ar y cyntaf o Fehefin, 2004 a gwnaed lu o ddarganfyddiadau ohono cyn ddiwedd y prosiect ar 15 Medi 2017[1].

Maint a siap golygu

Ymddengys Sadwrn fel petai ef wedi ei wastatu pe edrychir arno trwy delesgop; mae ei dryfesurau cyhydeddol a phegynol yn amrywio bron yn 10% (120,535 km o gymharu ag 108,728 km). Mae hynny oherwydd ei fod yn troi mor gyflym ac oherwydd ei gyflwr hylifol. Mae'r planedau nwy eraill hefyd yn wastad wrth eu pegynau ond nid cymaint â Sadwrn.

Mae Sadwrn yn llai ei gynhwysedd na'r planedau eraill; mae ei ddwyster penodol (0.7) yn llai na dwyster dŵr.

 
Modrwyau Sadwrn mewn golau uwch fioled.

Fel Iau, mae Sadwrn tua 75% hydrogen a 25% heliwm gydag olion dŵr, methan, amonia a "chraig", yn debyg i gyfansoddiad Nifwl yr Haul cysefin a ffurfiodd Cysawd yr Haul.

Mae'r tu mewn i Sadwrn yn debyg i Iau, gyda chalon greigiog, haen o hydrogen metelaidd hylifol a haen hydrogen moleciwlaidd. Mae olion iâ hefyd yn bresennol. Mae'r tu mewn i Sadwrn yn boeth (12000 K yn y canol) ac mae Sadwrn yn tywynnu mwy o ynni nag y mae ef yn derbyn oddi wrth yr Haul. Cynhyrchir yr ynni ychwanegol gan y mecanwaith Kelvin-Helmholtz (sef gwasgedd dwyster) fel ar Iau. Ond nid yw hynny'n esbonio disgleirdeb Sadwrn, sydd efallai'n cael ei greu gan heliwm sydd yn cael ei fwrw allan rywle y tu mewn i'r blaned.

Y cylchoedd golygu

Nodwedd amlycaf Sadwrn, wrth edrych arno o bell, yw'r cylchoedd mawr sy'n ymestyn allan i'r gofod uwchben ei gyhydedd gan bron iawn ddyblu ei faint ymddangosiadol. Mae'n bosib gweld tri chylch o'r ddaear: A, B, C a darganfyddwyd cylch arall mewnol ym 1969. Ond yna, pan ddaeth lluniau lloeren o Pioneer 11 ym 1979, Voyager 1 a 2 ym 1980–81, Galileo ddechrau'r 1990au ac yn ddiweddar Cassini ers 2004, darganfyddwyd llawer mwy a bod patrymau rhyfeddol o hardd a chymhleth iddynt.

Darnau o rew a chreigiau, â'u meintiau yn ymestyn o ronnynau o lwch i gyrff rai cilomedrau ar eu traws sydd yn y cylchoedd. Mae'r cylchoedd eu hunain yn denau iawn, tua kilomedr o drwch, ac mae, mewn gwirionedd, filoedd ohonynt. Rhai yn llyfn, eraill ar batrwm tebyg i blethen hir droellog ac eraill yn donnog. Mae'n debyg mai symudiadau creigiau go fawr neu leuadau bychain ymysg y cylchoedd sy'n gyfrifol am y patrymau hyn a bod y bylchau rhyngddynt wedi eu ffurfio wrth i lwch a cherrig gael eu sgubo i fyny gan greigiau neu leuadau bychain ar eu hynt.

A tharddiad y cylchoedd? Posib mai rhyw gorff neu gyrff astronomegol gafodd eu chwalu'n yfflon gan rym ddisgyrchiant Sadwrn ydynt, a bod rhai o'r gweddillion yn dal i gylchdroi hyd heddiw ar ffurf disg tenau. Mae'n ddifyr bod gan bob un o'r cewri nwy eraill gylchoedd hefyd, ond rhai llawer iawn llai na Sadwrn; rhai nas darganfyddwyd tan i luniau lloeren ein cyrraedd o'r 1980au ymlaen.

Ceir esboniad difyr o bwrpas cylchoedd Sadwrn yn Yr Anianydd Cristnogol, T. Dick (1860), tud. 207: “Un o ddybenion eglur y modrwyau yma yw adlewyrchu goleuni ar y blaned yn absenoldeb yr haul; ac wrth bob tebyg, eu bod yn gwasanaethu fel cyfaneddle helaeth i fyrddiynau o fodau teimladol a deallol…”. Nid yw'n ymhelaethu, gwaetha'r modd, ar ba fath o fodau byw fyddai y rheiny.

Mae'r bandiau a welir ar Iau yn llai amlwg ar Sadwrn. Maen nhw hefyd yn fwy llydan wrth gyhydedd y blaned. Mae manylion y cymylau'n anweledig oddi ar y Ddaear, felly ni ellid astudio cylchrediad atmosfferig Sadwrn hyd nes i Voyager gyrraedd y blaned. Mae Sadwrn hefyd yn dangos stormydd hirgrwn mawr o hir oes a nodweddion eraill a welir ar Iau.

Gellir gweld dwy fodrwy amlwg (A a B) ac un sy'n llai amlwg (C) oddi wrth y Ddaear. Gelwir y bwlch rhwng A a B y gwahaniad Cassini. Gelwir y bwlch llai amlwg ar ran allanol y fodrwy A y gwahaniad Encke (er nad oedd Encke ei hun yn debyg o fod wedi ei weld). Dangosodd lluniau Voyager bedair modrwy ychwanegol. Mae modrwyau Sadwrn, yn wahanol i fodrwyau planedau eraill, yn ddisglair iawn (albedo 0.2-0.6).

Er eu bod yn ymddangos yn barhaol oddi wrth y Ddaear, mewn gwirionedd mae'r modrwyau wedi eu cyfansoddi o ronynnau bychain di-rif, bob un ohonynt mewn cylchdro annibynnol. Mae eu maint yn amrywio o sentimedr i sawl medr o hyd. Mae rhai gwrthrychau sydd yn gilomedr o hyd hefyd yn debyg.

Mae modrwyau Sadwrn yn hynod o denau: er bod eu tryfesur dros 250,000 km mae eu lled yn llai nag un cilomedr. Serch eu hymddangosiad trawiadol nid oes llawer o ddefnydd o fewn y modrwyau mewn gwirionedd: petai'r modrwyau'n cael eu gwagu i ffurfio un corff ni fyddai eu tryfesur ond 100 km.

Ymddengys y gronynnau eu bod wedi eu cyfansoddi'n bennaf o iâ dŵr, ond gellir hefyd gynnwys gronynnau creigiog wedi eu gorchuddio gan iâ.

Mae modrwy fwyaf allanol Sadwrn (F) yn strwythur gymhleth wedi ei chyfansoddi o sawl modrwy lai gyda "clyma" gweladwy. Credir bod y clymau'n glampiau defnydd neu loerennau bitw.

Mae yna soniaredd trai a llanw rhwng rhai o loerennau Sadwrn a'r modrwyau: mae rhai ohonynt, y lloerennau bugeiliol (fel Atlas, Promethëws a Phandora) yn bwysig mewn cadw'r modrwyau yn eu lle; ymddengys Mimas i fod yn gyfrifol am ddrudaniaeth defnydd o fewn y gwahaniad Cassini, sydd yn debyg i fylchau Kirkwood y gwregys asteroid.

Nid wyddys gwreiddiau modrwyau Sadwrn a'r cewri nwy eraill. Gallai'r modrwyau fod wedi bodoli ers i'r planedau gael eu ffurfio ond nid ydynt yn sefydlog ac maen nhw'n cael eu hadnewyddu gan brosesau sy'n mynd yn eu blaenau, efallai gan loerennau sydd wedi eu rhwygo. Gallai oedran y modrwyau cyfredol fod dim ond rhai cannoedd o filiynau o flynyddoedd.

Fel y cewri nwy eraill, mae gan Sadwrn faes magnedol sylweddol.

Defnydd yn y Gymraeg golygu

Ceir y defnydd cynharaf o eiriau Cymraeg yng Ngeiriadur y Brifysgol; dyma rai o'r cynharaf:[2]

  • 13g. BD 116: Kyghoruynt Sadwrn seren a dygvyd.
  • 15g. GDLl 79:
Ternau o waith Satwrnus,
A’i gwenwyn oll a’i gwnâi’n us.
Ni ad blaned y Sadwrn
Tre cerddo na syrthio swrn.
  • 1596 Peniarth 187 40b:
yr uchaf yw sadwrn yr hon
… a gylchyna yr holl arwyddion.
  • 1694 T. Jones: Alm [15]L
Y blaned Sadwrn yn ei gwrthrediad yn yr ail tŷ o’r addurn.
  • 1725 D. Lewis: GB 376:
Y mae weithieu i’w gweled yn groes ar Sadwrn, ac weithieu oddiamgylch iddi yn edrych fel Modrwy.

Chwedloniaeth golygu

Yn 1610, pan edrychodd Galileo ar Sadwrn drwy ei delescôp bychan fe welodd ddau lwmp yn sticio allan nail ochr iddo. Erbyn 1612 roedd y lympiau wedi diflannu. Bu i arsylliadau eraill ganddo ef ag eraill ddangos bod meintiau'r lympiau hyn yn cynyddu a diflannu dros gyfnod o 15 mlynedd. O'r diwedd, yn 1659, dealltodd Christiaan Huygens o'r Iseldiroedd mai "modrwy" neu gylch o amgylch Sadwrn oedd yn gyfrifol a bod hon yn fwy neu yn llai gweladwy yn ôl yr ongl yr oedd rhywun yn edrych arni wrth i'r blaned gylchdroi drwy'r gofod. Hynny yw, roedd yn hawdd i'w gweld wrth edrych arni o'r top neu'r gwaelod, ond yn anoddach pan edrychid yn syth ar draws arni.

Yn rhyfeddol, roedd ymddanghosiad a diflaniad lympiau neu "glustiau" Sadwrn yn cyfateb (efo cryn dipyn o ddychymyg, hynny yw) i ran o'r chwedl Roegaidd wreiddiol am Cronos a ymgorfforwyd yn rhan o gefndir y Sadwrn Rhufeinig. Yn ôl y stori honno, wedi Iwranws (duw'r awyr) ffrwythlonni Gaia (y fam ddaear) fe geisiodd atal mwy o'u hepil erchyll – 3 chawr; 3 Seiclops hyll a 12 Titan – rhag cael eu geni drwy eu gwthio yn eu holau i groth eu mam. I ddial am y fath driniaeth fe roddodd Gaia gryman yn llaw ei holaf anedig, sef y Titan a elwid Cronos. Fe sbaddodd hwnnw ei dad a thaflodd ei geilliau i'r môr. O drochion y "sblash" fawr honno y cododd Affrodite, duwies serch y Groegiaid.

Fel yr oedd Iwranws yn marw o ganlyniad i'r sbaddu fe broffwydodd y byddai Cronos hefyd yn cael ei ladd gan un o'i feibion ei hun. O ganlyniad byddai Cronos yn llyncu ei blant fel y byddai Rhea, ei wraig, yn rhoi genedigaeth iddynt. Yn naturiol, roedd Rhea braidd yn flin am hyn, a'r tro nesa dyma hi'n geni ei phlentyn yn y nos, ei guddio, a rhoi carreg i Cronos i'w llyncu. Zeus oedd y plentyn a achubwyd ac, yn unol â'r broffwydoliaeth fe drechodd ei dad a sefydlu ei oruchafiaeth ei hun.

Mabwysiadwyd stori Cronos gan y Rhufeiniaid a'i hasio i hanes Sadwrn, eu duw amaeth. Yn y fersiwn Rufeinig, y mab a guddiwyd gan Ops, gwraig Sadwrn, oedd Iau ac ef fu'n gyfrifol am drechu Sadwrn a'r Titans eraill a dyrchafu ei hun yn reolwr y bydysawd. Ymysg pethau eraill, roedd y Rhufeiniaid yn gweld ystyr amaethyddol i gryman Cronos.

Ystyriai rhai ei bod ymddanghosiad ysbeidiol y ddau lwmp welodd Galileo y nail ochr i'r blaned Sadwrn yn cyfateb, yn symbolaidd hynny yw, i enedigaeth epil Cronos a'u diflaniad yn cyfateb i'r hen Gronos yn eu traflyncu.

Y Satwrnalia golygu

Roedd y Sadwrn Rhufeinig yn dipyn mwy ewyllysgar na'r Cronos gwreiddiol a chynhelid gŵyl fawr yn ei enw bob blwyddyn am rai dyddiau nail ochr i'r dydd byrraf. Roedd y Satwrnalia yn dipyn o barti! Rhialtwch meddwol lle byddai rheolau cymdeithasol o bob math yn cael eu llacio, thrythyllwch rhywiol yn rhemp, y meistr yn gweini ar y gweision a chynhelid gêmau a charnifalau o dan ofal rywun apwyntiwyd fel "arglwydd afreolaeth" dros gyfnod yr ŵyl – plentyn neu gaethwas yn aml iawn. Cyfle i'r isaf fod uchaf a'r lleiaf fod fwyaf. Gwelwn adlais o hyn yn nefod Hela'r Dryw, pan ddaw'r lleiaf, er iddo gael ei aberthu, yn frenin dros dro. Hefyd, oni elwir y dydd o'r wythnos roir i ymlacio a chwaraeon yn ddydd Sadwrn?

Astroleg golygu

Caiff taith awyrol ac araf Sadwrn drwy 12 arwydd y Sidydd ei chysylltu yn astrolegol â henaint, oerni a phrudd-der. Yn Seryddiaeth (1830), disgrifia R. Jones effaith Sadwrn ar y sawl gaiff ei eni dan ei ddylanwad: "A'r dyn a aner dani a gâr ddillad duon; ac fe fydd iddo lygaid trymion, a gweflau tewion… a gwedd athrist, sarug; ac o fywyd anfodlon, pifis yn ei natur… Y benywod yn hyswiod budron…a'u cyrph yn heneiddio yn fuan".

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cassini: The Grand Finale". Jet Propulsion Laboratory (NASA). 15 Medi 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-14. Cyrchwyd 15 Medi 2017.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 29 Tachwedd 2017.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).




Planedau yng Nghysawd yr Haul
 
Mercher
 
Gwener
 
Y Ddaear
 
Mawrth
 
Iau
 
Sadwrn
 
Wranws
 
Neifion