Roedd Salvador Guillermo Allende Gossens (26 Mehefin 1908 - 11 Medi 1973) yn wleidydd o Tsile a wasanaethodd fel arlywydd ei wlad o 3 Tachwedd 1970 hyd ei farwolaeth. Fe'i ganed yn Valparaiso.

Salvador Allende
FfugenwChicho Edit this on Wikidata
Ganwyd26 Mehefin 1908 Edit this on Wikidata
Santiago de Chile Edit this on Wikidata
Bu farw11 Medi 1973 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Santiago de Chile Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTsile Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Tsili
  • Q5391867
  • Q5975059
  • Instituto Nacional General José Miguel Carrera
  • Q5975072 Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, meddyg, llawfeddyg, President of Chile Edit this on Wikidata
SwyddPresident of Chile, president of the Senate of Chile, Aelod o Siambr Dirprwyon Chile, senator of Chile, Chilean minister of Health, ysgrifennydd cyffredinol Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSocialist Party of Chile Edit this on Wikidata
TadSalvador Allende Castro Edit this on Wikidata
MamLaura Gossens Uribe Edit this on Wikidata
PriodHortensia Bussi Edit this on Wikidata
PlantMaría Isabel Allende, Beatriz Allende Edit this on Wikidata
PerthnasauIsabel Allende, Maya Fernández Edit this on Wikidata
LlinachTeulu Allende Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd José Martí, Order of Augusto César Sandino, Gwobr Heddwch Lennin, Grand Cross of the Order Bernardo O'Higgins, Grand Cross of the Order of Merit, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo Edit this on Wikidata
llofnod

Gyrfa wleidyddol golygu

Ymddiddorai Allende mewn gwleidyddiaeth yn ddyn ifanc, a chafodd ei arestio sawl gwaith yn ystod ei amser fel myfyriwr am iddo gymryd rhan mewn gweithgareddau radicalaidd. Cynorthwyodd i sefydlu Plaid Sosialaidd Tsile, plaid Farcsaidd annibynnol a ddilynai lwybr gwahanol i'r Blaid Gomiwynyddol a oedd yn dilyn llwybr yr Undeb Sofietaidd. Cafodd ei ethol i Siambr Dirprwyon Tsile yn 1937, gwasanaethodd fel gweinidog iechyd am dair blynedd ac fel seneddwr o 1945 hyd 1970.

Safodd dair gwaith am yr arlywyddiaeth - yn 1952, 1958 a 1964 - ond heb lwyddiant. Yn 1970 llwyddodd gyda mwyafrif bychan i ddod yn arlywydd Tsile a chychwynodd ar raglen radicalaidd asgell chwith i greu cymdeithas sosialaidd mewn fframwaith llywodraeth ddemocrataidd yn y wlad. Ond wynebai wrthwynebiad eang gan elfennau grymus yn y sector preifat a byd busnes ; cefnogai llywodraeth yr Unol Daleithiau'r gwrthwynebwyr a rhoddwyd y CIA ar waith yn y wlad i helpu tanseilio llywodraeth Allende. Ym mis Medi 1973, cafwyd coup milwrol yn ei erbyn a sefydlwyd junta militaraidd dan arweiniad y Cadfridog Augusto Pinochet. Bu farw cannoedd o bobl yn yr ymladd. Lladdwyd Allende yn y brwydro i gipio'r Palas Arlywyddol yn Santiago, prifddinas Tsile.

Yn y misoedd ar ôl lladd Allende, ffôdd cannoedd o bobl, yn cynnwys nith Allende, y nofelydd Isabel Allende, i geisio lloches yn yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill.

Cyfeiriadau golygu