Seanad Éireann

ail siambr deddfwrfa Iwerddon

Seanad Éireann (Ynganiad IPA: [ˈʃan̪ˠəd̪ˠ ˈeːɾʲən̪ˠ]) sef, o'i gyfieithu, Senedd Iwerddon, yw llywodraeth ail dŷ neu siambr yr Oireachtas (deddfwrfa Gweriniaeth Iwerddon). Rhannau eraill y Ddeddfwrfa yw Arlywydd Iwerddon a Dáil Éireann (y brif siambr). Gelwir y corff, fel rheol yn Seanad neu Senate a'i haelodau yn senators yn Saesneg a seanadóirí yn y Wyddeleg, unigol: seanadóir). Yn wahanol i Dáil Éireann, nid yw ei haelodau wedi eu hethol yn uniongyrchol ond yn hytrach drwy amryw o ffyrdd. Mae ei grym llawer yn llai na'r Dáil - gall ond araf deddfau yn hytrach na'u gwrthwynebu'n llwyr. Lleolir y Seanad yn adeilad Tŷ Leinster.

Seanad Éireann
Senate of Ireland
Coat of arms or logo
Gwybodaeth gyffredinol
MathAil Dŷ Oireachtas
Arweinyddiaeth
CathaoirleachDenis O'Donovan, (FF)
ers 8 Meh. 2016
Leas-ChathaoirleachPaul Coghlan, (FG)
ers 16 Meh. 2016
LeaderJerry Buttimer, (FG)
ers 8 Mehefin 2016
Deputy LeaderCatherine Noone, (FG)
ers 1 Gorff. 2016
Opposition LeaderCatherine Ardagh, (FF)
ers 18 Mai 2016
Cyfansoddiad
Aelodau60
Sefyllfa gyfoes
Grwpiau gwleidyddol
Llywodraeth (20)
     Fine Gael (20)
Confidence and supply (13)
     Fianna Fáil (13)
Yr Wrthblaid (27)
     Sinn Féin (6)
     Y Blaid Lafur (4)
     Y Blaid Werdd (1)
     Cynghreiriaid Urddas Dynol (1)
     Annibynwyr (15)
Etholiadau
Etholiad diwethaf24 April 2016
Man cyfarfod
SeanadEireann-800.jpg
Seanad chamber
, Dublyn
Gwefan
oireachtas.ie

Aelodaeth golygu

Caiff y cyfarfodydd y Seanad ei chadeirio gan y Cathaoirleach (Cadeirydd). Y Cathaoirleach sy'n cadw trefn ar y corff.

Yn ôl Erthygl 18 o Gyfansoddiad Iwerddon mae i Seanad Éireann 60 aelod a ddewisir fel a ganlyn:

  • 11 wedi eu henwebu gan y Taoiseach (Prif Weinidog).
  • 6 wedi eu hethol gan raddedigion rhai o brifysgolion Iwerddon:
  • 43 wedi eu hethol o bump panel enwebiadau a elwir yn Baneli Galwedigaethol (Vocational Panel) gan etholaeth sy'n cynnwys TDs (aelodaeu Dáil Éireann); cyn seneddwyr ac aelodau cynghorau sir a dinas y Weriniaeth. Cyfyngir enwebiadau i seddi'r panel i aelodau'r Oireachtas a chyrff arbennig a ceir hawl i enwebu. Mae pob un o'r pum panel, yn cynnwys, mewn egwyddor, aelodau sy'n meddu ar wybodaeth arbenigol, neu brofiad arbennig un o'r pum maes arbenigol. Mewn gwirionedd, mae'r enwebiadau fel rheol yn aelodau o'r pleidiau gwleidyddol sy'n aml (er nad pob tro) yn rai sydd wedi colli neu methu ennill sedd, neu sydd â bryd ar fynd i'r Dáil
    • 7 sedd ar y Panel Gweinyddol (Administrative Panel): Gweinyddiaeth gyhoeddus a gwasanaethau cymdeithasol (yn cynnwys y sector wirfoddol)
    • 11 sedd ar y Panel Amaethyddol: Amaeth a Physgota
    • 5 sedd ar Banel Diwylliant ac Addysg: Addysg, y celfyddydau, yr iaith Wyddeleg, a diwylliant a llenyddiaeth Iwerddon.
    • 9 sedd ar y Panel Diwydiant a Masnach: Diwydiant a masnach (yn cynnwys peirianneg a phensaernïaeth
    • 11 sedd ar y Panel Llafur: Llafur (wedi eu hundebu neu fel arall)

Rhaid cynnal etholiad gyffredinol i'r Seanad dim hwyrach na 90 dydd wedi diddymu Dáil Éireann. Etholid yr aelodau drwy system o gynrychiolaeth gyfrannol a elwir fel pleidlais sengl drosglwyddadwy (ym mhaneli'r etholaethau mae pob pleidlais yn cyfri fel 1000, sy'n golygu fod canrannau o'r bleidlais yn haws i'w drosglwyddo).

Mae aelodaeth yn agored i bob dinesydd Gwyddelig dros 21 oed, ond gall seanadóir ddim fod yn aelod gydamserol o Dáil Éireann. Serch hynny, fel nodir uchod, rhaid i enwebiadau i etholaethau'r prifysgolion gynnwys 10 llofnod gan raddedigion.

Mewn achos o sedd wag ar y Panel Alwedigaethol, mae'r is-etholiad yn cynnwys aelodau'r Oireachtas yn unig.[1] Llenwir seddi gweigion i seddi'r prifysgolion gan yr etholiad gan holl aelodau'r etholaeth.

Aelodaeth 25ain Seanad (2016–presennol) golygu

Plaid Seneddwyr
Fine Gael 20
Fianna Fáil 13
Sinn Féin 6
Plaid Lafur Iwerddon 4
Plaid Werdd Iwerddon 1
Human Dignity Alliance 1
Annibynnol 15
Cyfanswm 60

Hanes golygu

Sefydlwyd y Dáil Éireann gyntaf yn 1919 gan y cenedlaetholwyr fel senedd un siambr. Yn 1920 sefydlodd Lywodraeth Prydain Senedd De Iwerddon gydag ail siambr a alwyd yn 'Seneta'. Roedd y corff yma'n cynnwys cymysgedd o arglwyddi Gwyddeleg ac apwyntiadau'r llywodraeth (Brydeinig). Cwrddodd y Senedd yma yn 1921 ond fe'i boicotiwyd gan genedlaetholwyr Gwyddelig ac felly daeth byth yn weithredol. Diddymwyd y corff yn llwyd gyda sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1922 er i nifer o'i haelodau gael ei hapwyntio i Senedd y Wladwriaeth Rydd.

Seanad Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (1922–36) golygu

Defnyddiwyd y term Seanad Éireann am y tro cyntaf fel teitl ail siambr Oireachtas y Wladwriaeth Rydd. Roedd y Seanad yma'n cynnwys cymysgedd o aelodau a apwyntiwyd gan Arlywydd y Cyngor Gweithredu (President of the Executive Council) ac aelodau a etholwyd yn anuniongyrchol gan y Dáil, a cytunodd W. T. Cosgrave i ddefnyddio ei apwyntiadau ef er mwyn cynnwys cynrychiolaeth ychwanegol o leiafrif Brotestanaidd y wladwriaeth newydd. Fe ddileuwyd Seanad y Wladwriaeth Rydd yn gyfan gwbl yn 1936 wedi iddi oedi cynigion cyfansoddiadol gan y Llywodraeth Fianna Fail.

Cyfansoddiad Iwerddon (ers 1937) golygu

Sefydlwyd, neu'n hytrach, ail-sefydlwyd y Seanad Éireann gyfoes gan Gyfansoddiad Iwerddon yn 1937. Pan fabwysiadwyd y ddogfen hon fe benderfynwyd cadw'r teitlau Gwydddeleg, Oireachtas, Dáil Éireann am y siambr gyntaf a Seanad Éireann am yr ail siambr, fel a ddefnyddiwyd yn ystod cyfnod y Wladwriaeth Rydd. Ystyriwyd y Seanad yma fel olynydd i Seanad y Wladwriaeth Rydd ac felly yn ystod ei chyfarfod gyntaf fe'i cyfeirir ati fel "Yr Ail Seanad".

Fe ysbrydolwyd y system o Baneli Galwedigaethol i enwebu ymgeiswyr i'r Seanad gan athrawiaeth gymdeithasol yr Eglwys Gatholig yn yr 1930au, ac, yn enwedig, yr Cylchlythyr y Pâb Quadragesimo anno. Yn y ddogfen hon mae'r Pab Pïws XI yn dadlau y dylai'r cysyniad Farcsaidd o wrthdarro dosbarth gael ei eilyddio gan weledigaeth o drefn gymdeithasol wedi ei seilio ar gydweithio a chyd-ddibyniaeth gwahanol grwpiau galwedigaethol cymdeithas.

Refferendwm Diddymu'r Seanad, 2013 golygu

Ym mis Hydref 2009, datganodd arweinydd plaid Fine Gael, Enda Kenny, ei fwriad y byddai llywodraeth Fine Gael yn dileu y Seanad ynghyd â lleihau nifer y TDs gan 20 er mwyn "arbed oddeutu €150m dros gyfnod tymor y Dáil."[2] Yn ystod Etholiad Cyffredinol 2011 fe wnaeth Plaid Lafur Iwerddon, Sinn Féin a Phlaid Sosialaidd Iwerddon hefyd gefnogi diddymu'r Seanad.[3][4][5] tra i blaid Fianna Fáil gefnogi refferendwm ar y pwnc.[6]

Wedi ethol Llywodraeth Fine Gael-Llafur, cafwyd refferendwm ar y mater ym mis Hydref 2013. Pleidleisiodd pobl 51.7% to o blaid cadw Seanad Éireann a 48.3% yn ei erbyn.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ryan 'very unlikely' to accept Seanad seat". Irish Independent. 15 Mehefin 2009. Cyrchwyd 17 Mehefin 2009.
  2. "Kenny: FG would slash TD numbers, abolish Seanad". BreakingNews.ie. 17 Hydref 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-19. Cyrchwyd 2018-09-25.
  3. "Labour calls for Seanad to be abolished". RTÉ News. 4 Ionawr 2011.
  4. "Government lagging behind public on Seanad abolition – Doherty". Sinn Féin. 3 Ionawr 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-06. Cyrchwyd 2018-09-25.
  5. "Kenny defends Seanad plan". The Irish Times. 19 Hydref 2009. Cyrchwyd 19 Hydref 2009.
  6. "Fianna Fáil U-turn on Seanad looks to have sealed fate of Upper House". The Irish Times. 3 Ionawr 2011.

Dolenni allanol golygu