Sgwrs:Arnold Schoenberg

Latest comment: blwyddyn yn ôl by Craigysgafn in topic Neges ar Trydar

Neges ar Trydar

golygu

Rhag ofn nad ydych wedi gweld sylw gan Ann Hopkin ar Trwydar:

Byddwn yn awgrymu fod ei ddylanwad wedi dieithrio cynulleidfa gerddth gelf yn ystod yr 20G a’r her o adennill y gynulleidfa honno yn aruthrol. Awgrymaf mai nid yr anghytseinedd oedd yn anodd ond y diffyg ail-adrodd syniadau cerddorol. Wrth ail-wrando (yn ystod darn) down i ddeall.

Llywelyn2000 (sgwrs) 11:47, 20 Medi 2022 (UTC)Ateb

Heb os, mae gwaith Schoenberg yn heriol. Iddo ef yr oedd cerddoriaeth yn fater difrifol, yn fater moesol. Nid adloniant yn unig ydoedd. Doedd pobl byth yn mynd i fwmian ei alawon o dan y gawod. Mae AH yn gwneud pwynt da: nid y sain yw’r peth anoddaf am ei waith, ond y ffordd y mae e’n cywasgu syniadau, ei barodrwydd i wthio’r holl elfennau cerddorol i'w eithafion ar yr un pryd. --Craigysgafn (sgwrs) 13:26, 20 Medi 2022 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Arnold Schoenberg".