Sgwrs:Is-etholiad Ynys Môn, 2013

Latest comment: 10 o flynyddoedd yn ôl by Blogdroed in topic Cynnal ta Cadw?


Cynnal ta Cadw? golygu

Sedd wedi ei chadw gan Plaid Cymru ydi Ynys Môn, nid sedd wedi ei chynnal, ia? Dwi'n siwr mai "cadw" mae'r bbc yn ddefnyddio adeg etholid[1]. Onid "tend" mae cynnal yn ei olygu yn hytrach na "keep"/"hold"? Heb ei arwyddo. Defnyddiwr:Blogdroed; 22:00, 22 Medi 2013‎ Blogdroed.

Rwyt ti'n iawn. Dwi wedi newid y Nodyn:Election box hold with party link fel bod 'cadw' yno rwan yn lle 'cynnal' (sy'n gallu golygu 'maintain' ac felly 'keep/hold' - e.e. "cynnal eu canran o'r pleidleisiau" neu "cynnal etholiad" 'hold an election' - ond nid dyna'r term iawn am gadw sedd, wrth gwrs). Diolch am bwyntio hyn allan! Anatiomaros (sgwrs) 23:50, 22 Medi 2013 (UTC)Ateb
Diolch i ti! (Mae'n rhaid i mi ddechrau cofio arwyddo sgyrsiau!!) --Blogdroed (sgwrs) 10:07, 23 Medi 2013 (UTC)Ateb

Cyfeiriadau golygu

Nôl i'r dudalen "Is-etholiad Ynys Môn, 2013".