Sgwrs:Llanfyllin

Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000

Dywed yn yr adran 'Hanes': Un o'r tai harddaf, gyda 5 bae, yw 'Manor House'. Sut ydys yn mesur harddwch yn wrthrychol? (Sylw gan Defnyddiwr:95.150.72.201)

Diolch i chi am dynnu sylw at hyn. Gobeithio bod yr erthygl yn fwy wrthrychol rwan. Anatiomaros (sgwrs) 01:33, 19 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Tŷ harddaf Llanfyllin yw Manor House; Gwyddoniadur Cymru tud. 540. Gwneir hyn yn yr erthyglau ar loynnod byw hefyd, pan fo'r disgrifiad o'r harddwch yn un cyffredinol, lle byddai mwyafrif yr hil ddynol yn cytuno gyda'r gosodiad ac lle nad yw'n fater llosg. Felly gydag adeilad pan fo hwnnw wedi'i godi mewn dull i gyffroi'r synhwyrau. Gwyliwn rhag y paranoia hwn! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:53, 19 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Ond eto i gyd, mae barnu un adeilad yn harddach na'r lleill yn hollol oddrychol ac anwyddonol. Diau fod gan wahanol bobl y dre wahanol farnau ynglŷn â'r adeilad harddaf. Oni ellir mesur harddwch yn feintiol, rhaid gochel rhag y cyfryw ddatganiadau.
Mynna air efo golygyddion Gwyddoniadur Cymru i weld a wnawn nhw ei ddileu o bob copi a gyhoeddwyd! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:23, 19 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Moesymgrymaf gerbron anffaeliedig olygyddion Gwyddoniadur Cymru! Os yw rhywbeth i'w gael mewn copi cyhoeddiedig ganddyn nhw, rhaid i ni eu dilyn yn union, a byth meiddio bwrw amheuaeth!
Nôl i'r dudalen "Llanfyllin".