Sgwrs:Sommaren med Monika

Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Ambell sylw

Ambell sylw golygu

Diolch am yr erthygl ragorol hon, ond...

  1. Pam ydym ni'n defnyddio'r enw Saesneg ar ffilm Swedeg? Does dim fersiwn Gymraeg o'r ffilm wych hon wedi ei rhyddhau, yn anffodus, ac felly ein polisi ni yma ar Wici yw defnyddio'r enw gwreiddiol os nad oes cyfieithiad neu fersiwn Cymraeg wedi'i cyhoeddi neu'i ryddhau, e.e. fel llyfr neu fideo. Dwi'n cynnig symud hyn i'r enw Swedeg.
  2. Parthed iaith eto, dwi ddim yn gweld cyfiawnhad dros gynnwys dyfyniad hir yn Saesneg - neu unrhyw iaith estron arall - ar y Wici Cymraeg. Gellid trosi neu aralleirio'r dyfyniad a rhoi'r dyfyniad Saesneg fel troednodyn efallai, ond yn sicr dwi ddim yn gweld lle i ddarnau hir o Saesneg mewn unrhyw erthygl ar ein wici.

ON Y côd nodyn yn y wybodlen oedd yn peri i'r categorïau Saesneg ymddangos mewn coch ar waelod y dudalen. Dwi wedi'i ddileu er mwyn cael gwared ohonynt. Anatiomaros (sgwrs) 23:08, 4 Medi 2014 (UTC)Ateb

Cytuno'n llwyr efo'r teitl. Newidiwyd. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:49, 5 Medi 2014 (UTC)Ateb
Diolch. Dwi wedi crynhoi sylwadau Woody Allen yn Gymraeg a rhoi'r testun Saesneg yn y troednodyn. Anatiomaros (sgwrs) 23:57, 5 Medi 2014 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Sommaren med Monika".