WiciBrosiect Cymru golygu

Os oes diddordeb gennych, ymunwch gyda WiciBrosiect Cymru os gwelwch yn dda! Diolch yn fawr Titus Gold (sgwrs) 15:01, 29 Ebrill 2023 (UTC)Ateb

Shwmae, Cymru 3 Gwlad Belg 1! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd.   Message in English |   Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,436 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
 
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
 
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
 
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
 
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
 
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
 
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
 
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
 
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
 
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
 
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 05:25, 9 Mai 2023 (UTC)Ateb

Dy gyfraniadau golygu

Diolch am dy gyfraniadau defnyddiol i cywiki! Mae bywgraffiadau'r chwaraewyr gwyddbwyll ac eraill yn werth eu cael. Gan dy fod yn cynhyrchu cymaint o ddeunydd, a gaf i fod mor feiddgar â gofyn iti edrych ar y confensiynau a ddefnyddiwn yma yn cywiki. Mae'r offer cyfieithu o'r Saesneg yn dal yn eithaf amrwd, ac maen nhw'n gadael llawer o lanast i'w glirio wedyn.

Treuliais i dipyn o amser yn tacluso'r chwaraewyr gwyddbwyll, ond mae angen eu caboli o hyd. Os cymeri di olwg ar y cod ar y tudalennau gan ddefnyddio'r tab "Golygu" a defnyddio'r teclyn "Cymharu'r fersiynau" gelli weld y math o beth rwyf wedi gwneud. Byddai’n help mawr i ni pe baet ti'n gwneud rhywfaint o’r gwaith golygyddol hwn dy hun.

Dechreuais i ar Lavrentiy Beria yn gynharach, ond mae problemau dyfnach yno. Yn anffoddus, nid yw'r Nodyn:Sfn (sy'n ymddangos mewn cromfachau cyrliog ar cywiki, sef {{Sfn}}) yn gweithio fan hyn, ac mae angen trosi eu cynnwys i gyfeiriadau arferol (fel <ref> ... </ref>) â llaw. Oherwydd nad yw'r nodyn yn bodoli, mae cyfres hir o negeseuon gwall yn ymddangos mewn coch ar ddiwedd yr erthygl. Wyt ti'n meddwl y gelli di wneud rhywbeth tuag at dacluso'r pethau hyn? Byddwn i'n ei werthfawrogi'n fawr.

Yn fwy na dim, y cwestiwn y dylen ni ei ofyn i’n hunain wrth greu erthyglau yw: sut mae hyn yn gwasanaethu cymuned Gymraeg. Efallai nad cannoedd o gyfeiriadau at ffynonellau Saesneg yw'r ffordd orau. Weithiau "Less is more" fel maen nhw'n ei ddweud.

--Craigysgafn (sgwrs) 14:54, 7 Gorffennaf 2023 (UTC)Ateb