Helo a Croeso golygu

Dwi wedi bod yn tacluso rhai o dy erthyglau. Yn yr erthygl Mark Robert Davey, alli di roi cyfieithiad Cymraeg i deitlau yr arddangosfeydd, ac hefyd nid yw'n glir ym mle mae nhw wedi eu cynnal. Rwyt wedi nodi pedwar dolen allanol - mae angen nodi dolenni at beth ydynt, a gan eu bod yn Almaeneg mae eisiau nodi hyn. Dyma sut mae gwneud hyn:


*[http://www.gwefan.com(bwlch)Enw'r wefan] {{eicon de}}

A dylai wedyn ymddangos fel hyn:

Rho shout ar fy nhudalen sgwrs os oes cwestiwn gyda ti.--Ben Bore 16:18, 11 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

Mae dod i ddeall sut i wneud popeth ar wikipedia yn gallu bod yn trici ar y dechrau. Efallai bod y [newidiadau yma'n] rhoi blas ar sut mae gwneud rhai pethau. Gan bod erthygl am Mark ar y wiki Almaeng, ti'n gallu gosod dolen rhyngwici (interwiki) ato a'r erthygl Gymraeg drwy osod [[de:Mark Robert Davey]] ar waelod yr erthygl CYMRAEG a vice versa. Fel mae Anatiomaros yn egluro, i adael neges i rhywun, dos i'w tudalen proffeil, a chlicio ar y tap 'sgwrs'. Mae gan pob erthygl ei dudalen sgwrs hefyd fel ti'n gwbod. Tria peidio dileu negeseuon sydd yno'n barod. Mae'r [Caffi] yn le da i ofyn cwestiynnau hefyd.--Ben Bore 11:21, 27 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

Golygu a.y.y.b. golygu

Paid â phoeni gormod am y golygu, mae rhywun yn dysgu wrth fynd ymlaen. I ateb dy gwestiwn ar Sgwrs dy erthygl, i adael neges i rywun y cwbl sy rhaid wneud ydy clico ar Sgwrs ar ôl ei enw neu fynd i'w dudalen defnyddiwr ac agor y dudalen Sgwrs. I "arwyddo" dy neges dy hun cofia roi pedwar tilde (fel hyn ~~~~) ar ddiwedd dy neges. Gyda llaw, dwi'n gweld dy fod yn safio'r erhygl ar ôl pob newid bychan, ond does dim rhaid, jest cliciwch 'Dangos rhagolwg' a chario ymlaen i sgwennu wedyn (ar ôl cael golwg arall os wyt ti isio) ar y diwedd cliciwch 'Cadw'r dudalen'. Croeso iti ofyn cwestiynau ar fy nhudalen sgwrs. O, "Croeso" hefyd! Anatiomaros 20:10, 11 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

ON Fedri di gael hyd i dudalen rhywun trwy deipio 'Defnyddiwr:(enw)' yn y blwch Chwilio hefyd, e.e. Defnyddiwr:Ben Bore i gael tudalen Ben Bore. Anatiomaros 20:14, 11 Mawrth 2008 (UTC)Ateb


Bore da! Mae problem gyda fi a Wicipedia!

Mae Thaf wedi newid erthygl "Mark Robert Davey" heb edrych ar y cysylltiadau. Mae rhai yn gweithio - rhai ddim. Mae rhaid i fi newid testun eto. Oce - mae Cymraeg yn well! Tacluso iaith, diolch yn fawr. Dwi ddim yn defnyddio Cymraeg yn aml.

Dwi ddim yn hoffi: Symudodd Davey o Loegr i Dalysarn yn Nyffryn Nantlle ac wedyn i Gricieth, gyda'i deulu pan oedd yn naw oed. Dysgodd Gymraeg fel plentyn ac mae'n siarad yr iaith yn rhugl erbyn hyn." o Loegr - mi oeddwn i dweud "i Dalysarn". Cartref Llys Maldwyn - dim yn byw; hefyn yn arddangos > hefyd!; yn Llyfrgell y Brifysgol a Sacsoni Isaf, Göttingen, Yr Almaen - dim Llyfrgell y Brifysgol Cymru. Cofion caredig - beiciwr ydw i hefyd! Minwel

Erthyglau heddiw (20 Hydref 2010) golygu

Dwi wedi cuddio'r testun Almaeneg yn yr erthygl am Göttingen. Mae'n faith iawn - os wyt ti'n teimlo fel cyfieithu hynny i gyd, popeth yn iawn, ond mae'n lot o waith: oes angen y cyfan? Dwi wedi tacluso'r ail erthygl. Sylwer dydy erthygl ar y Wicipedia Saesneg ddim yn cyfrif fel ffynhonnell a hefyd dydym ni ddim yn caniatau dolenni i grwpiau Facebook. Anatiomaros 17:51, 20 Hydref 2010 (UTC)Ateb


Diolch yn fawr Anatiomaros!--Minwel 07:01, 26 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Göttingen golygu

Helo, Minwel. Peth cyntaf imi ddweud yw "shwmae a chroeso!" :) Gwaith da gennyt ar yr erthygl Göttingen - dal ati, ond gan bwyll; mae llawer iawn o wybodaeth yno yn barod, megis "Hanes" - mae is-adrannau gyda'r fersiwn a geir ar en. Oes angen yr holl wybodaeth, neu oes modd crynhoi'r wybodaeth neu ei rhannu? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:50, 29 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Hefyd, ni ddylid gosod sylwadau fel, "Mwy i ddod!!" ar Wicipedia. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:51, 29 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Trefn wici golygu

Plîs dysgwch dipyn bach am y ffordd iawn i drefnu erthyglau ar wicipedia, er enghraifft: fel hyn. Hefyd, does dim angen categori gwlad fel rheol, e.e. Categori:Yr Almaen, os ydy'r erthygl mewn categori dyfnach, e.e. Categori:Berlin. Mae'n cymryd llawer iawn o amser i gywiro pethau elfennol fel hyn ac mae gennym ni ddigon o waith i'w wneud yn barod. Hefyd, os nad ydych chi'n rhugl yn y Gymraeg mae'n well osgoi ceisio sgwennu gormod achos mae angen i bobl eraill dreulio cryn dipyn o amser wedyn i gywiro iaith yr erthygl, sy'n aneglur iawn weithiau: yr ateb ydy "cadwch bethau'n syml". Rydym ni'n gwerthfawrogi eich ymdrechion i greu erthyglau ond dydy hi ddim yn deg ar gyfranwyr eraill i dreulio cymaint o amser fel hyn ar dacluso a chywiro. Diolch. Anatiomaros 17:48, 25 Ionawr 2011 (UTC)Ateb

Cyfieithu i'r Almaeneg golygu

Shwmae! Dw i ddim yn siwr os ydych chi'n siarad Almaeneg neu beidio, ond mae angen rhywun i gyfieithu'r dudalen hon [1] ar y Wiciadur (y geiriadur cydweithredol) i'r Almaeneg. Yr unig beth sydd angen gwneud yw dileu'r Saesneg (sydd yng nghanol holl gôdau'r wici) a rhoi'r Almaeneg yn ei le. Yna mae angen copïo a phastio'r cyfan i [[2]] A fyddech chi'n gallu gwneud hynny? Os na, dim problem! Diolch! Pwyll 14:35, 30 Ionawr 2011 (UTC)Ateb

Golygathon Caerdydd 30.6.12 golygu

S'mai. Wyt ti awydd trip i'r brifddinas? --Ben Bore (sgwrs) 13:46, 18 Mai 2012 (UTC)Ateb

Ffotogallery golygu

OK, dyna ddigon o gynnwys dw i'n credu. Mae'n dechrau mynd yn unencyclopedic (ydy'r gair yna'n bodoli?). :-) --Ben Bore (sgwrs) 15:57, 18 Mai 2012 (UTC)Ateb


Helo, diolch yn dalpe / yn fawr am dy help. ' Rwy wedi gorffen gyda'r erthygl 'ma. Dwi ddim yn ysgrifennu rhywbeth ers achau felly mae'n cymryd amser i fi, hefyd yn y Gymraeg. Diolch Ben Bore am y gwahoddiad hefyd. Cofion gorau. Byddaf yn sgrifennu am Ffotogallery ar gufer Wicipedia Almaeneg yn nes ymlaen. Mwy yn fuan. --Minwel (sgwrs) 16:35, 18 Mai 2012 (UTC)Ateb

Michael Gue golygu

Croeso nol! Dileais y pwt ar Michael Gue gan nad oedd yn cynnwys 2 baragraff, dim dolenni, dim categoriau ac i ddweud y gwir, doedd hi ddim yn erthygl. Awgrymaf eich bod yn darllen ein canllawiau yn yr adran gymorth, ein polisiau a'r canllaw ar arddull. Cofion... Llywelyn2000 (sgwrs) 11:20, 19 Ebrill 2021 (UTC)Ateb