Dinas sy'n gorwedd 87 km i'r de o ddinas Damascus yn y Jabal el Druze yn Syria yw Shahba (Arabeg شهبا ), sy'n adnabyddus hefyd dan ei henw hynafol Philippopolis.

Shahba
Adfeilion y Philippeion
Mathsafle archaeolegol, tref/dinas, populated place in Syria Edit this on Wikidata
Poblogaeth16,745 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAs-Suwayda Governorate, Shahba Subdistrict Edit this on Wikidata
GwladBaner Syria Syria
Uwch y môr1,082 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.8539°N 36.6294°E Edit this on Wikidata
Map

Hanes Rhufeinig golygu

Shahba oedd man geni Philip yr Arab yn ôl rhai ffynonellau. Pan ddaeth Philip yn Ymerawdwr Rhufain yn 244 OC, cysgegrodd ei hun i'r dasg o droi ei dref enedigol ddinod yn fetropolis ac ailenwyd y ddinas yn Philippopolis er ei anrhydedd. Dywedir y dymunai'r ymerawdwr greu efelychiad o ddinas Rhufain ei hun yno. Codwyd temlau, bwau buddugoliaeth, baddondai, theatr a mur amgylchynnol yno yn y dull Rhufeinig arferol, ond peidiwyd y gwaith adeiladu ar ôl marwolaeth Philip. Gwelir sawl adeilad Rhufeinig yn y ddinas heddiw. Ceir amgueddfa lle gellir gweld enghreifftiau da o waith mosaic Rhufeinig.