Sioned Davies

ysgolhaig

Ysgolhaig yw'r Athro Sioned Davies (ganed 1954) a chyn-bennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd. Mae'n arbenigwr mewn llenyddiaeth Gymraeg ganoloesol, a'r Mabinogi yn enwedig.

Sioned Davies
Ganwyd1954 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethieithegydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Fe'i magwyd yn Llanbrynmair a'r Trallwng yn Sir Drefaldwyn, yn ferch i Elwyn Davies, prifathro ysgol, a Nest Pierce Roberts. Mae'n nith i'r ysgolhaig Enid Pierce Roberts, ac mae ganddi chwaer, Gwerfyl, a brawd, Huw.

Bu'n bennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd am dros ugain mlynedd, cyn ymddeol o'r swydd yn 2017. Mae'n athro emerita yn y Brifysgol ar hyn o bryd.[1]

Yn 2012, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp annibynnol o dan ei chadeiryddiaeth i gynghori ar sut i wella darpariaeth Cymraeg ail iaith mewn ysgolion. Cyhoeddwyd adroddiad y grŵp yn 2013; roedd yn galw am gael gwared ar y cysyniad o Gymraeg ail iaith a sicrhau un continwwm o ddysgu'r Gymraeg ym mhob ysgol; enw'r adroddiad oedd Un Iaith i Bawb. Cafodd "Adroddiad Sioned Davies" ddylanwad sylweddol ar bolisi'r Llywodraeth ar ddysgu'r Gymraeg mewn ysgolion.[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Pedeir Keinc y Mabinogi, 1989
  • Crefft y Cyfarwydd, 1995
  • Canhwyll Marchogyon (gol.), 2000

Cyfeiriadau golygu