Sofía Hernández Salazar

Mae Sofía Hernández Salazar (ganwyd 26 Awst 1998) yn ymgyrchydd hawliau dynol a hinsawdd, o Costa Rica.

Sofía Hernández Salazar
Ganwyd26 Awst 1998 Edit this on Wikidata
San Jose, Califfornia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Costa Rica Costa Rica
Alma mater
  • Prifysgol Costa Rica Edit this on Wikidata
Galwedigaethamddiffynnwr hawliau dynol, amgylcheddwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Bu Sofía yn fyfyriwr gwyddoniaeth wleidyddol ym Mhrifysgol Costa Rica. Yn 2021 roedd yn drefnydd ar gyfer Gwener y Dyfodol Costa Rica, yn gydlynydd Escazú Ahora Costa Rica ac yn 'Arweinwyr Ifanc Costa Rica'. Cydweithiodd Hernández â Menter Re-Earth ar gyfer Diwrnod y Ddaear 2020 a chyd-sefydlodd Latinas For Climate. Mynychodd Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2019 fel rhan o ddirprwyaeth Costa Rica.[1]

Ymunodd â Gwener y Dyfodol Costa Rica ganol 2019 ac yn aelod o'r un o’i streiciau cyntaf o flaen carterf Arlywydd Costa Rica, ac yn rhan o sgwrs gydag Arlywydd y Weriniaeth, Carlos Alvarado, ac actifyddion eraill ynglŷn â phwysigrwydd datgan argyfwng oherwydd newid hinsawdd. Pwysleisiodd y dylai gwladwriaethau roi cyfle i bobl ifanc wneud penderfyniaidau a oedd yn eu heffeithio nhw [2]. Yn dilyn hynny, cymerodd Sofia ran sawl tro mewn trafodaethau gyda Is-lywydd, Costa Rica, Epsy Campbell, lle anogodd y dylid cadarnhau Cytundeb Escazú[3] fel mater o frys.[4]

Er mis Medi 2020 mae hi'n un o gydlynwyr Escazú Now, menter a drefnwyd gan Fridays For Future Costa Rica, Greenwolf Costa Rica a'r Rhwydwaith Ieuenctid a Newid Hinsawdd lleol sy'n ceisio cadarnhau a gweithredu Cytundeb Escazú yn y wlad.

Yn Rhagfyr 2020, roedd Hernández yn rhan o grŵp byd-eang o 9 o ferched (ac actifyddion nad ydynt yn ddeuaidd) a gyhoeddodd lythyr at arweinwyr byd-eang ar Thomson Reuters Foundation News, o'r enw "Gan fod Cytundeb Paris ar Newid Hinsawdd yn bump oed, mae angen gweithredu brys ar fygythiadau hinsawdd, nawr". Roedd y grŵp rhyngwladol yn cynnwys Mitzi Jonelle Tan, Belyndar Rikimani, Leonie Bremer, Laura Muñoz, Fatou Jeng, Disha Ravi, Hilda Flavia Nakabuye a Saoi O'Connor. [5] Gweithiodd i drefnu'r Ffug COP26 ac roedd yn ddirprwy dros Costa Rican.[6][7][8][9]

Gweithiau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "4 Young Climate Activists on Intersectionality in Climate Justice, Fighting From Home, and More". Green Matters (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-06.
  2. "PRESIDENTE CARLOS ALVARADO SE REÚNE CON JÓVENES DE FRIDAYS FOR FUTURE COSTA RICA". Presidencia de la República de Costa Rica.
  3. Campbell, Epsy. "El día de hoy recibimos en @presidenciacra voceras y voceros de la campaña EscazuAhoraCR, una red de jóvenes de diversas organizaciones que se unieron para exigir la ratificación de este Acuerdo Regional". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.
  4. Perez, Wendy (2020-10-24). "Representantes del Gobierno se reúnen con ambientalistas para discutir pesca de arrastre". El Mundo CR (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2021-05-08.
  5. Foundation, Thomson Reuters. "There's no time left for diplomacy. Now it's time for action". news.trust.org. Cyrchwyd 2021-05-06.
  6. Goering, Laurie (2020-11-09). "As virus delays climate summit, youth 'Mock COP' takes (virtual) floor". Reuters (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-06.
  7. "The UN canceled its 2020 climate summit. Youth held one anyway". Grist (yn Saesneg). 2020-11-30. Cyrchwyd 2021-05-06.
  8. "Youth Activists Are Holding Their Own Climate Summit After COP26 Gets Delayed Due to COVID-19". Global Citizen (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-06.
  9. "'We want real action': young activists aim to fill void on climate with Mock Cop26". the Guardian (yn Saesneg). 2020-11-10. Cyrchwyd 2021-05-06.

Dolenni allanol golygu