Tim pêl-droed sy'n chwarae yng nghynghreiriau Yr Alban yw Stranraer Football Club. Maent wedi sefydlu yn Stranraer, sydd yn Ne-Orllewin Yr Alban. Maent yn chwarae eu gemau cartref yn stadiwm Stair Park.

Stranraer
Enw llawn Stranraer Football Club
(Clwb Pêl-droed Stranraer)
Llysenw(au) The Blues (Y Glas)
Sefydlwyd 1870
Maes Stair Park
Rheolwr Baner Yr Alban Stephen Aitken
Cynghrair Ail Adran yr Alban
2018-2019 8ydd

Hanes golygu

Sefydlwyd Stranraer F.C. yn 1870, a nhw ydy'r trydydd tim hynaf yng nghynghreiriau yr Alban. Ymunodd Stranraer â chynghreiriau'r Alban yn 1949. Gêm enwocaf Stranraer oedd yn erbyn Glasgow Rangers yn 1948 yng Nghwpan Yr Alban. Enillodd Rangers 1-0 mewn gem agos iawn o flaen stadiwm orlawn. Heb fawr o dlysau i'w henw yn ystod bron i 140 o flynyddoedd fel tîm, mae Stranraer wedi treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn y cynghreiriau isaf. Maent wedi cyrraedd Y Gynghrair Gyntaf ar dair adeg wahanol, ond byth wedi medru aros yn yr adran yn fwy nag un tymor. Yn 2009 roedd gan y clwb ddyledion o dros £250,000, sydd yn fygythiad real i'r clwb.

Anrhydeddau golygu

  • Enillwyr Ail Gynghrair yr Alban: 1993-94, 1997-98
  • Enillwyr Trydedd Cynghrair yr Alban: 2003-04

Dolenni allanol golygu