Stryd Fawr, y Drenewydd

Stryd hanesyddol yng nghanol y Drenewydd, Powys, un o'r prif strydoedd masnachol yng nghanol y dref, gyda nifer o adeiladau rhestredig, yw'r Stryd Fawr (Saesneg: High Street).

Golygfa tuag at adeiladau'r Cross
Stryd Fawr, Y Drenewydd (ochr ogleddol)

Lleoliad golygu

Mae'r Stryd Fawr yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin yng nghanol y Drenewydd, o'r groesffordd gyda Stryd Lydan (Broad Street), Stryd Hafren (Severn Street) a Stryd y Bont Fer (Shortbridge Street), i'r fynedfa i barc y dref ar Lon Gefn (Back Lane).

 
Adeilad WHSmith, Stryd Fawr, Y Drenewydd

Hanes golygu

Mae'r Stryd Fawr yn ffurfio rhan o ganol hanesyddol y Drenewydd. Mae adeilad hynaf y stryd, gwesty'r Buck, yn dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif. Cafodd golwg y stryd ei newid ym 1900, pan gafodd adeiladau'r Cross (gan gynnwys twr cloc y dref) eu codi ar y gyffordd â Stryd Lydan. [1] [2]

Disgrifiad golygu

Yn ogystal â Stryd Lydan, mae'r Stryd Fawr yn un o brif strydoedd masnachol y dref, gyda nifer o siopau, tafarnau a bwytai. Mae'r rhan fwyaf o'i hadeiladau yn dyddio'n ôl i'r 19eg ganrif o leiaf, ond tafarndy'r Buck yn dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif. Mae adeiladau hanesyddol o bwys yn cynnwys:

  • Neuadd y Farchnad (Saesneg; Market Hall) ar ochr ogleddol y stryd, mewn adeilad brics coch. Mae neuadd y farchnad yn cysylltu'r Stryd Fawr a Stryd y Farchnad, stryd fasnachol sy'n rhedeg yn gyfagos a'r Stryd Fawr.
  • Tafarndy'r Buck – adeilad deulawr ffrâm bren gydag atig, gafodd ei godi yn yr ail ganrif ar bymtheg, sy wedi cadw nifer o features hanesyddol [3]
  • Adeilad WHSmith – adeilad tri llawr o frics melyn, gafodd ei godi yn rhan gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Symudodd WHSmith yn yr adeilad ym 1927. Ym 1975, fel cyfraniad i'r flwyddyn treftadaeth bensaernïol Ewropeaidd adferwyd yr adeilad i'w ymddangosiad gwreiddiol yn y dauddegau. [4]
 
Tafarndy'r Buck, Stryd Fawr, Y Drenewydd


Mae'r olygfa i'r dwyrain yn cael ei dominyddu gan adeiladau'r Cross ar y gyffordd gyda Stryd Lydan.

I'r gorllewin, mae golygfa tuag at borth parc y dref.

Cyfeiriadau golygu

  1. "The High Street, Newtown, 1880s / People's Collection Wales". People's Collection Wales. Cyrchwyd 6 Chwefror 2024.
  2. "Town Clock - Newtown: Newtown". newtown.org.uk. Cyrchwyd 6 Chwefror 2024.
  3. "The Buck Public House, Newtown and Llanwchaiarn". britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 6 Chwefror 2024.
  4. "W H Smith, Newtown and Llanwchaiarn". britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 6 Chwefror 2024.