Stryd y Farchnad, y Drenewydd

Stryd fasnachol yng nghanol y Drenewydd yw Stryd y Farchnad (Saesneg: Market Street).

Stryd y Farchnad, y Drenewydd - Mynedfa i Neuadd y Farchnad

Lleoliad golygu

Mae Stryd y Farchnad yn rhedeg o'r gogledd-ddwyrain i'r de-orllewin yng nghanol y Drenewydd. Mae hi'n cysylltu Stryd y Bont Fer (Saesneg: Shortbridge Street) a'r Lôn Gefn (Back Lane). Mae'r stryd yn rhedeg yn gyflinellol i'r Stryd Fawr, ac mae mynedfaoedd i Neuadd y Farchnad ar y ddwy stryd.

Hanes golygu

Ym 1869, cafodd nifer o adeiladau ar Stryd y Farchnad a'r Stryd Fawr eu dymchwelyd (o dan orchmynion gan Wastel Brisco, perchennog Ystad Newtown Hall) er mwyn codi neuadd farchnad newydd ar gyfer y dref. Ym 1870, adeiladwyd Neuadd y Farchnad ac fe'i hagorwyd ychydig ddyddiau cyn Nadolig. [1]

Disgrifiad golygu

Mae Stryd y Farchnad yn rhan o galon hanesyddol y Drenewydd, ac yn un o brif strydoedd masnachol y dref. Mae'r stryd wedi cadw nifer o adeiladau hanesyddol, y mwyafrif ohonynt yn adeiladau masnachol deulawr Fictoraidd. Neuadd y Farchnad ydy'r adeilad mwyaf nodedig ar y stryd.

Adeilad brics melyn a theracota yw Neuadd y Farchnad. Mae'r neuadd yn sefyll ar safle sy'n estyn o'r Stryd Fawr i Stryd y Farchnad, gyda mynedfaoedd ar y ddwy stryd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Mayes, Penny. "History of Newtown Market Hall [39 photos] in SO 108915 : Geograph". Geograph. Cyrchwyd 20 Mawrth 2024.