Awdur a phensaer Palesteinaidd yw Suad Amiry (Arabeg: سعاد العامري‎; ganwyd 1951) sy'n byw yn ninas Ramallah yn y Lan Orllewinol.

Suad Amiry
Ganwyd1951 Edit this on Wikidata
Damascus Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Palesteina Palesteina
Alma mater
Galwedigaethpensaer, peiriannydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auGwobr Ryngwladol Viareggio-Versilia Edit this on Wikidata

Addysg golygu

Astudiodd bensaernïaeth ym Mhrifysgol Beirut America, Prifysgol Michigan, a Phrifysgol Caeredin, yr Alban. Symudodd ei rhieni o Balesteina i Aman, Gwlad yr Iorddonen lle cafodd ei magu, ac aeth i brifddinas Libanus, Beirut, lle astudiodd bensaernïaeth .

Bywyd personol golygu

Pan ddychwelodd i Ramallah fel ymwelydd ym 1981, cyfarfu â Salim Tamari, a briododd yn ddiweddarach, gan ymgartrefu yn y ddinas.

Gyrfa golygu

Cyfieithwyd ei llyfr Sharon a fy Chwaer-yng-Nghyfraith i 19 iaith, gan gynnwys yr Arabeg, a ddaeth yn llyfr mwyaf poblogaidd Ffrainc yn 2004. Dyfarnwyd hefyd Wobr Fawreddog Viareggio yn yr Eidal ynghyd â Manuela Dviri.

Rhwng 1991 a 1993 roedd Amiry yn aelod o ddirprwyaeth heddwch Palestina yn Washington, DC. Mae hi'n aml yn cymryd rhan mewn rhai mentrau a chynadleddau heddwch gan ferched Palestina ac Israel.

Trodd ei bryd at wleidyddiaeth, a rhwng 1994 a 1996 hi oedd Dirprwy Weinidog Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Gweinyddiaeth Diwylliant Awdurdod Palestina.[1]

Hi yw Cyfarwyddwr a sylfaenydd Canolfan Cadwraeth Bensaernïol Riwaq, sefydlwyd y ganolfan ym 1991; y cyntaf o'i fath i weithio ar adfer a gwarchod treftadaeth bensaernïol ym Mhalestina.

Roedd Amiry yn aelod o staff Prifysgol Bir Zait tan 1991, ac ers hynny gweithiodd i Riwaq lle mae'n gyfarwyddwr.[2] Fe'i penodwyd yn is-gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Prifysgol Birzeit yn 2006.[3]

Riwaq golygu

Un o brosiectau cyntaf Riwaq oedd llunio cofrestrfa o adeiladau o werth hanesyddol sylweddol ym Mhalestina. Wedi'i gwblhau yn 2004, rhestrwyd 50,000 o adeiladau, gyda hanner ohonyn nhw'n wag ac angen gwaith cynnal a chadw. Yn 2001 lansiodd Riwaq raglen ddeng mlynedd o greu swyddi trwy gadwraeth (tashgheel). Hyfforddwyd gweithwyr i ddefnyddio deunyddiau a thechnegau traddodiadol. Yn 2005 lansiwyd 'Prosiect 50 Pentref' gyda'r nod o adfer mannau cyhoeddus ac a oedd yn cynnwys y pentrefwyr wrth adnewyddu eu heiddo eu hunain. Mae Riwaq hefyd wedi gwneud gwaith pwysig ar y Pentrefi Throne (qura karasi), canolfannau ardaloedd treth yr Otomaniaid.[4]

Llyfrau golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu