Nofel gan Anthony Trollope yw The Claverings, a ysgrifennwyd ym 1864 ac a gyhoeddwyd ym 1866-67. Hanes dyn ifanc ar ddechrau ei fywyd fel oedolyn, sy'n gorfod cael proffesiwn a gwraig iddo'i hun; a merch ifanc sy'n priodi o ran cyfleustra ac sy'n gorfod derbyn canlyniadau ei phenderfyniad.[1]

The Claverings
Arglwyddes Ongar a Harry Clavering
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurAnthony Trollope
CyhoeddwrCornhill Magazine, Smith, Elder & Co. Edit this on Wikidata
GwladDeyrnas Unedig
IaithSaesneg
ISBN0-19-283707-9
GenreFfuglen, Nofel

Crynodeb Plot golygu

Harry Clavering yw unig fab y Parchedig Henry Clavering, clerigwr da ei fyd ac ewythr tadol y barwnig cefnog Syr Hugh Clavering. Ar ddechrau'r nofel, mae Harry yn cael ei siomi gan ei ddyweddi, chwaer gwraig Syr Hugh, sy'n penderfynu priodi'r Arglwydd Ongar, iarll cyfoethog ond llwgr.[2]

Mae tad Harry yn ei annog i fod yn offeiriad Eglwys Loegr; ond mae Harry yn dyheu am ddod yn beiriannydd sifil, tebyg i Robert Stephenson, Joseph Locke, a Thomas Brassey. I'r perwyl hwn, mae'n dod yn ddisgybl yng nghwmni Beilby a Burton.

Blwyddyn a hanner yn ddiweddarach, mae Harry wedi dyweddïo â Florence Burton, merch un o'i gyflogwyr. Mae'n pwyso arni am briodas gynnar; ond er ei bod hi'n ei garu'n ddwfn, mae'n gwrthod, gan fynnu eu bod nhw'n aros nes bod ganddo incwm sy'n ddigonol i gynnal ei hun a theulu.

Mae'r Arglwydd Ongar yn marw, a'i weddw yn dychwelyd i Loegr. Mae Syr Hugh, ei pherthynas wrywaidd agosaf, yn ddyn caled a hunanol, ac yn gwrthod ei gweld ar ôl iddi gyrraedd. Mae hyn yn rhoi rhywfaint o gadarnhad bod sibrydion am ei hymddygiad yn gywir. Mae'r Arglwyddes Ongar yn gorfodi ei chwaer, yr Arglwyddes Clavering, i ofyn i'w cyn cariad, Harry, i'w chynorthwyo.

Mae Harry yn methu â dweud wrth yr Arglwyddes Ongar am ei ddyweddïad; ac, mewn eiliad o wendid, mae'n ei chofleidio a'i chusanu. Mae hyn yn ei roi mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddo ymddwyn yn anonest tuag at un o'r ddwy fenyw yn ei fywyd: naill ai mae'n rhaid iddo dorri ei ddyweddïad, neu mae'n rhaid iddo gydnabod ei fod wedi sarhau'r Arglwyddes Ongar yn ddifrifol. Er ei fod yn caru Florence Burton ac yn gwybod mai hi yw'r fenyw orau, nid yw'n fodlon rhoi trallod pellach i'r Arglwyddes Ongar.

Mae'r Arglwyddes Ongar, oherwydd ei chyfoeth sylweddol, yn cael ei chwrso yn rhamantus gan eraill. Mae hi'n cael ei chwrso gan yr Iarll Pateroff, un o ffrindiau ei diweddar ŵr, a chan Archie Clavering, brawd iau Syr Hugh. Mae chwaer gynllwyngar yr Iarll Pateroff, Sophie Gourdeloup, yr unig fenyw a fydd yn gweld yr Arglwyddes Ongar oherwydd y sibrydion am ei hymddygiad, eisiau iddi aros yn sengl fel y gall Mme Gourdeloup barhau i'w hecsbloetio.

Mae Mme Gourdeloup yn sicrhau bod yr Arglwyddes Ongar yn dysgu am ddyweddïad Harry. Yn y cyfamser, mae Florence Burton yn dysgu bod Harry wedi bod yn gweld yr Arglwyddes Ongar yn rheolaidd, ac yn penderfynu bod yn rhaid iddi ei ryddhau os nad yw’n ei charu hi'n ddigonol.

Trwy ddylanwad da ei fam, daw Harry i sylweddoli mai Florence Burton yw’r fenyw orau a’r lleiaf haeddiannol o driniaeth anonest. Mae Harry yn ymateb i lythyr Florence sy'n cynnig dod â'u dyweddïad i ben trwy ei sicrhau o'i gariad tuag ati. Mae hefyd yn ysgrifennu at yr Arglwyddes Ongar, gan fynegi ei edifeirwch am ei ymddygiad annerbyniol tuag ati ac yn ddweud ei fod am aros yn driw i'w ddyweddi.

Yn fuan wedi hynny, mae Syr Hugh ac Archie Clavering yn boddi pan fydd eu cwch hwylio yn suddo oddi ar Heligoland.[3] Trwy hyn mae tad Harry yn cael ei godi i farwnigaeth ei frawd mae hefyd yn etifeddu Clavering Park. Mae statws a chyfoeth Harry yn cynyddu hefyd wrth iddo ddod yn edling i deitl ac ystadau newydd ei dad. Mae ei newid byd yn caniatáu iddo briodi ar unwaith a rhoi'r gorau i beirianneg, proffesiwn nad oedd ganddo'r hunanddisgyblaeth ar ei gyfer. Mae'r Arglwyddes Ongar yn ildio llawer o'i heiddo i deulu'r iarll newydd, ac yn neilltuo gyda'i chwaer weddw.

Hanes cyhoeddi golygu

Ysgrifennodd Trollope The Claverings rhwng 21 Awst a 31 Rhagfyr 1864. Ymddangosodd y gwaith fel storï gyfres yn y Cornhill Magazine rhwng Chwefror 1866 a Mai 1867; hon oedd y bedwaredd a'r olaf o nofelau Trollope i'w cyhoeddi yn y cylchgrawn. Fe'i cyhoeddwyd ar ffurf llyfr gan Smith, Elder & Co. ym 1867.[4] Wrth osod y llyfr mewn teip, hepgorwyd rhan o ddwy ran o dair o dudalen o destun Cornhill, yn ddamweiniol mae'n debyg.[5]

Ym 1867, rhyddhawyd argraffiad Americanaidd yn dwyn y dyddiad 1866 gan Harper. Yn yr un flwyddyn, cynhyrchodd Tauchnitz o Leipzig rifyn Saesneg; rhyddhawyd rhifyn Iseldireg o'r enw De Claverings gan Brast o Dordrecht ; a chyhoeddwyd cyfieithiad Rwsieg, Klaveringi, yn St Petersburg. Ym 1875, rhyddhaodd A. Moe o Stavanger gyfieithiad Norwyeg, Familien Clavering [6]

Cysylltiadau â gweithiau eraill Trollope golygu

Er bod The Claverings yn cael ei ystyried yn un o lyfrau unigol Trollope, yn hytrach na ran o gyfres [7] mae'n debyg ei fod wedi'i leoli yn esgobaeth Barchester: mae Henry Clavering, fel clerigwr, dan bwysau i roi'r gorau i hela llwynogod gan yr Esgob a Mrs Proudie o nofelau Barsetshire.

Mae Archie Clavering yn cael ei gynorthwyo yn ei ymgais i garu'r Arglwyddes Ongar gan ei ffrind Capten Boodle; yn The Vicar of Bullhampton (1870), mae cyfeiriad fer at y "Captain Boodle bach",[8] ac mae'n ymddangos yn fyr fel ffrind i Gerard Maule ym Mhennod LXIX o Phineas Redux .

Cyfeiriadau golygu

  1. Trollope, Anthony (1998). The Claverings. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 0-19-283707-9. OCLC 41424619.
  2. Trollope, Anthony (1866). The Claverings. A novel. Copi digidol ar Internet Archive: Efrog Newydd, Harper.
  3. "Claverings, The". Trollope Society. Cyrchwyd 2020-01-06.
  4. "Anthony Trollope's Writing Life: A Chronology". www.jimandellen.org. Cyrchwyd 2020-01-06.
  5. Skilton, David (1986). Cyflwyniad a nodiadau esboniadol i The Claverings. Rhifyn Clasuron Rhydychen.
  6. Tingay, Lance O (1985). The Trollope Collector. Llundain: The Silverbridge Press. tud. 27.
  7. "A Bibliography for Trollope's Singletons". www.jimandellen.org. Cyrchwyd 2020-01-06.
  8. Trollope, Anthony (1870). The vicar of Bullhampton. Internet Archive: Llundain : Bradbury, Evans. t. 214.