The Grub Street Journal

Cylchgrawn llenyddol wythnosol, hynod o ddychanol, oedd The Grub Street Journal a gyhoeddwyd yn Llundain o Ionawr 1730 i Ragfyr 1737.[1] Mae'r enw yn cyfeirio at Grub Street a oedd yn gartref i nifer o fân-lenorion ac ysgrifenwyr am dâl yn y 18g.

The Grub Street Journal
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1730 Edit this on Wikidata

Bu'n gwneud hwyl am bennau cylchgronau eraill, yn enwedig The Gentleman's Magazine a The Bee, a llenorion megis Lewis Theobald, Colley Cibber, a Laurence Eusden, a'r cyhoeddwr Edmund Curll. Mae'n debyg i Alexander Pope, prif ddychanwr yr oes Awgwstaidd, gael rhan yn y cylchgrawn, er nad yw hyn yn sicr. Cafodd gelynion Pope eu difenwi yn The Grub Street Journal fel "Knights of the Bathos".

Cyfeiriadau golygu

  1. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Oxford University Press, 1995), t. 427.

Darllen pellach golygu