The Rhondda Leader

papur newydd wythnosol i gymoedd y Rhondda. Bu o dan sawl enw teitl arall ers ei sefydlu yn 1899.

Mae'r The Rhondda Leader yn bapur newydd wythnosol a ddosberthir yng Nghymoedd y Rhondda. Mae'r papur newydd tabloid yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher gan Media Wales sy'n eiddo i gorfforaeth papurau newydd mwyaf y DU, Trinity Mirror. Yn rhan o'r gyfres Celtic Weekly Newspapers, sy'n cyhoeddi wyth teitl arall yn ne Cymru, sefydlwyd y Leader ym 1899 a bu trwy sawl newid enw a phartneriaeth ers y cyfnod hwnnw.

The Rhondda Leader
Enghraifft o'r canlynolpapur wythnosol Edit this on Wikidata
Rhan oPapurau Newydd Cymreig Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2 Rhagfyr 1899 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1899 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiTonypandy Edit this on Wikidata
PerchennogReach plc Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.rhonddaleader.co.uk/ Edit this on Wikidata

Mae'r papur yn cynnwys newyddion yr ardal a bydd o ddiddordeb fel dogfen am ei hadroddiadau ar Terfysg Tonypandy a ddigwyddodd adeg streic 1910-1911.[1]

Hanes golygu

Papur newydd rhyddfrydol a llafur wythnosol. Fe'i gyhoeddwyd rhwng 1899 a 1908, a chafodd ei gylchredeg yng Nghwm Rhondda. Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan William Davies Jones yn Nhonypandy.[2] Cyhoeddwyd The Rhondda Leader gyntaf ym 1899 a naw mlynedd yn ddiweddarach daeth yn Rhondda Leader, Maesteg, Garw ac Ogwr Telegraph.

Cyhoeddwyd y Porth Gazette o 1900 hyd 1944 ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd papur newydd o'r enw y Rhondda Socialist. Roedd y Rhondda Gazette hefyd mewn cylchrediad o 1913 i 1919 tra roedd y Rhondda Clarion yn cael ei ddarllen ar ddiwedd y 1930au.

Cyhoeddwyd y Porth Gazette a'r Rhondda Leader rhwng 1944 a 1967 a chyhoeddwyd y Rhondda Fach Leader and Gazette hefyd ym Mhontypridd yn ystod y blynyddoedd hynny.

Yn y blynyddoedd diweddar, cyfunodd y Rhondda Leader a Pontypridd & Llantrisant Observer cyn i'r Rhondda Leader ddod yn argraffiad ar wahân eto.

The Rhondda Leader ar-lein golygu

Mae cynnwys cynnar y papur wedi ei ddigido ac ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol. Ceir 997 rhifyn wedi eu digido rhwng blynyddoedd 1899 ac 1919.[2] Ceir hefyd rhifynnau 2 Ionawr 1986 hyd at 28 Rhagfyr 1995 eu digido ar wefan British Newspaper Archive.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Sack of Tonypandy". Papurau Newydd Cymru Ar-lein. 19 Mehefin 1911. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
  2. 2.0 2.1 "The Rhondda Leader". Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
  3. "The Rhondda Leader". British Newspaper Archive. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato