Papurau Newydd Cymru Ar-lein

Prosiect digido papurau newydd Cymru (Cymraeg a'r Saesneg, a'r Cymry dramor) a gyhoeddwyd rhwng 1804-1919

Mae Papurau Newydd Cymru Ar-lein yn rhan o waith a chennad Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddigido papurau newydd Cymru a'u rhoi ar wefan y Llyfrgell am ddim i'r cyhoedd eu darllen. Ceir 15 miliwn erthygl papur newydd ar y safle ac oddeutu 120 papur newydd Cymraeg a Saesneg eu hiaith.

Papurau Newydd Cymru Ar-lein
IaithCymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2009 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata

Mae'r papurau wedi eu digido fel y gellir eu darllen fel y fersiwn wreiddiol argraffiedig a hefyd ceir fersiwn adnabod tesun lle mae'r testun gwreiddiol wedi eu trawsffurfio i sans serif haws i'w darllen.

Gall y darllennydd hefyd chwilio'r holl gasgliad neu'r papur unigol wrth ddefnyddio gair neu ymadrodd arbennig e.e. enw person, pentref, dŷ, dyweder, cân neu dîm rygbi. Gellir hefyd gwneud y testun yn fwy neu'n lai er hwylusder darllen.

Rhychwant golygu

Ceir papurau Cymraeg a Saesneg eu hiaith ar y wefan gan gychwyn gyda'r hyn a ystyrir y papur newydd gyfoes gyntaf yng Nghymru, sef The Cambrian a sefydlwyd yn 1804 yn Abertawe[1] hyd at 1919. Ceir y papur Cymraeg ei hiaith gyntaf Seren Gomer a sefydlwyd gan Joseph Harris (Gomer) yn 1819,[2] a phapurau Cymry yn America fel Y Drych.[3]

Hygyrchedd golygu

 
The Cambrian, 28 Ionawr 1804, papur newydd gyntaf Cymru

Gellir meirinio chwilio ar y wefan yn ôl categori:

  • Enw'r papur newydd
  • Categori - newyddion, hysbysebion, rhestrau manwl, hysbysebiadau teuluol, ar goll
  • Degawd - o 1800-1809 i 1910-1919
  • Blwyddyn - o 1804 i 1919
  • Mis
  • Dydd
  • Iaith (Cymraeg neu Saesneg)
  • Ardal - De, Gogledd, Canolbarth, Gorllewin, y Gororau, Lerpwl (Lloegr), Unol Daleithiau, Llundain (Lloegr), Trelew (Yr Ariannin)
  • Math o Ddelwedd - darlun, ffotograff, cartŵn, graff, map
  • Hawlfraint - anhybsus (y mwyafrif llethol), hawlfraint, parth cyhoeddus

Digido golygu

Decehreuwyd y gwaith o ddigido'r papur o dan arweinyddiaeth Llyfrgellydd (Prif Weithredwr) y Llyfrgell Genedlaethol, Andrew Green, yn yr 2000au. Cyhoeddodd Gweinidog dros Dreftadaeth Llywodraeth Cymru ar y pryd, Alun Ffred Jones y bydd yr arian yn cael ei neilltuo o'r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol ar gyfer digideiddio 2 filiwn o dudalennau papur newydd a chylchgronau sy'n ymdrin â Chymru. Roedd yr arian ar gyfer digido cyhoeddiadau'n dyddio'n ôl i'r 18g, sef hyd at 300 o deitlau, yn cynnwys cylchgronau plant fel Cymru'r Plant a phapurau newydd poblogaidd.[4]

Erbyn 2014 roedd 27 cyhoeddiad newydd (200,000 tudalen) wedi eu rhoi ar y wefan.[5] Ymhlith y cyhoeddiadau newydd oedd; Y Negesydd, Caernarvon and Denbigh Herald, Glamorgan Gazette, Carmarthen Journal, The Welshman a’r Rhondda Leader, heb anghofio Y Drych, papur newydd wythnosol y Cymry yn yr UDA.[6]

Ystyriaethau Cadwraethol golygu

Yn ogystal â'r awydd i roi'r casgliad am ddim ac yn agored i'r cyhoedd, nodwyd hefyd yr angen i ddigido'r hen bapurau gan bod papurau a gyhoeddwyd ar ôl 1870 yn dueddol o fod mewn cyflwr gwaeth oherwydd defnyddiwyd papur ‘wood-chip’ a chemegau sydd a’r sgil effaith o hybu dirywiad papur.[7]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Cambrian". Gwefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 31 Hydref 2023.
  2. "Seren Gomer". Gwefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 31 Hydref 2023.
  3. "Y Drych". Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 31 Hydref 2023.
  4. "Cartre newydd i hen bapurau". 15 Ebrill 2009. Cyrchwyd 31 Hydref 2023.
  5. "Papurau Newydd Cymru Ar-lein – 27 cyhoeddiad newydd". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 6 Chwefror 2014. Cyrchwyd 31 Hydref 2023.
  6. "Papurau Newydd Cymru Ar-lein – 27 cyhoeddiad newydd". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 6 Chwefror 2014. Cyrchwyd 31 Hydref 2023.
  7. Thomas, Wyn (8 Hydref 2010). "Papurau newydd ar y we 1". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 31 Hydref 2023.

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato