Tref newydd (y Deyrnas Unedig)

Yn y Deyrnas Unedig, mae tref newydd yn dref a grëwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd o dan bwerau Deddf Trefi Newydd 1946 a deddfau diweddarach i adleoli poblogaethau a oedd wedi bod yn byw mewn tai is-safonol neu dai a gafodd eu bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe'u datblygwyd mewn tair ton.[1][2][3]

  • Sefydlwyd y don gyntaf yn y 1940au hwyr gan ganolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu tai ar safleoedd llain las gyda chysylltiadau rheilffordd (ac ychydig o ddarpariaeth a wnaed ar gyfer ceir). Roedd wyth tref newydd mewn cylch o gwmpas Llundain.
Tref newydd
Mathtref newydd, cymuned wedi'i chynllunio Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
  • Roedd yr ail don yn y 1960au cynnar yn cynnwys cymysgedd ehangach o ddefnyddiau ac yn defnyddio pensaernïaeth fwy arloesol.
  • Roedd trefi'r drydedd don yn fwy gyda mwy o bwyslais ar deithio mewn ceir.

Erbyn 2002, roedd tua 2 filiwn o bobl yn byw yn y trefi newydd, mewn tua 500,000 o gartrefi.

Y trefi newydd golygu

 
Canolfan ddinesig East Kilbride

Crëwyd y trefi canlynol o dan amrywiol Ddeddfau Trefi Newydd:

Yr Alban golygu

Tref Sir seremonïol Blwyddyn Nodyn
Cumbernauld Gogledd Swydd Lanark 1955
East Kilbride De Swydd Lanark 1947
Glenrothes Fife 1948
Irvine Gogledd Swydd Ayr 1966 Ehangu tref hŷn
Livingston Gorllewin Lothian 1962

Cymru golygu

 
Canol tref Cwmbân
Tref Sir seremonïol Blwyddyn Nodyn
Cwmbrân Gwent 1949
Y Drenewydd Powys 1967 Ehangu tref hŷn

Gogledd Iwerddon golygu

 
Drumgor Heights, Craigavon. Un nodwedd o drefi newydd yw dwysedd isel, rhy isel o bosib, rhwng aneddau
Tref Sir seremonïol Blwyddyn Nodyn
Craigavon (Creag Abhann) Swydd Armagh 1965
Antrim Swydd Antrim 1966 Ehangu tref hŷn
Ballymena Swydd Antrim 1967 Ehangu tref a phentrefi hŷn
Derry Swydd Derry 1969 Ehangu dinas hŷn

Lloegr golygu

 
Canol tref newydd Basildon o'r awyr (2010)
Tref Sir seremonïol Blwyddyn Nodyn
Basildon Essex 1949
Basingstoke Hampshire 1961 Ehangiad gorlif Llundain, yn hytrach na Deddf Trefi Newydd
Bracknell Berkshire 1949
Canol Swydd Gaerhirfryn Swydd Gaerhirfryn 1970 Datblygiad ardal drefol Preston, Leyland a Chorley
Corby Swydd Northampton 1950
Crawley Gorllewin Sussex 1947 Ehangu tref hŷn
Harlow Essex 1947
Hatfield Swydd Hertford 1948
Hemel Hempstead Swydd Hertford 1947
Milton Keynes Swydd Buckingham 1967
Newton Aycliffe Swydd Durham 1947
Northampton Swydd Northampton 1968 Ehangu tref hŷn
Peterborough Swydd Gaergrawnt 1967 Ehangu tref hŷn
Peterlee Swydd Durham 1948
Redditch Swydd Gaerwrangon 1964 Ehangu tref hŷn
Runcorn Swydd Gaer 1963
Skelmersdale Swydd Gaerhirfryn 1961
Stevenage Swydd Hertford 1946
Swindon Wiltshire 1952 Ehangu tref hŷn
Telford Swydd Amwythig 1963 a 1968 Ehangu trefi hŷn
Warrington Swydd Gaerhirfryn 1968 Ehangu tref hŷn
Washington Tyne a Wear 1964

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Piko, Lauren Anne (Tachwedd 2017). "Mirroring England? Milton Keynes, decline and the English landscape" (PDF) (yn Saesneg). The University of Melbourne: 49. Cite journal requires |journal= (help)
  2. Paice, L. "Overspill Policy and the Glasgow Slum Clearance Project in the Twentieth Century: From One Nightmare to Another?". warwick.ac.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-06-08. Cyrchwyd 20 Mai 2020.
  3. Oliver Wainwright (17 Mawrth 2014). "The garden city movement: from Ebenezer to Ebbsfleet". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Awst 2022.