Valériane Leblond

Arlunydd Ffrengig sy'n byw yng Nghymru yw Valériane Leblond. Mae'n paentio ar bren yn bennaf, gan greu tirluniau, bythynnod a delweddau o wragedd wrth eu gwaith tŷ.[1]

Valériane Leblond
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Yn wreiddiol o Angers, Pays de la Loire, astudiodd Leblond yng ngholeg Rennes, a Phrifysgol Nantes, Llydaw.[2] Symudodd i Gymru yn 2006, mae'n byw ym mhentref Llangwyryfon yng Ngheredigion. Mae Leblond yn siarad Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg. Mae hefyd yn gweithio fel cynorthwyydd Ffrangeg yn Ysgol Gyfun Penglais.[1]

Cafodd y llyfr Dim Ond Traed Brain gan Anni Llŷn, a ddarluniwyd gan Leblond, ei osod ar restr fer Gwobr Tir na n-Og 2017.[3]

Yn 2019 enillodd Wobr Tir na n-Og ar y cyd gydag Elin Meek, am ei gwaith darlunio yn y llyfr Cymru ar y Map, a gyhoeddwyd gan Rily Publications.[4]

Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf i blant Y Cwilt gan Y Lolfa yn 2019. Mae'r stori yn ymwneud â theulu bach yn gadael Cymru a mynd i chwilio am fywyd gwell yn America bell. Mae'r cwilt yn dod â chysur mawr pan mae hiraeth yn codi. Dyma'r gyfrol gyntaf i Valériane sgwennu'r stori a chreu'r lluniau.[5]

Mae ychydig o debygrwydd rhwng arddull Leblond ac elfennau o waith Lizzie Spikes.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (22 Hydref 2009) Brensiach y bratiau! Ffrances yn paentio byd gwragedd fferm Ceredigion, Cyfrol 22, Rhifyn 8. Golwg
  2. Taflen Adnabod Awdur: Elin Meek a Valériane Leblond[dolen marw], Cyngor Llyfrau Cymru, 2019.
  3. "Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og" Bethan Gwanas, 28 Mawrth 2017.
  4. "Catherine Fisher a'i nofel The Clockwork Crow yn cipio gwobr llenyddiaeth plant Tir na n-Og"[dolen marw] Cyngor Llyfrau Cymru, 16 Mai 2019.
  5. "Y Cwilt (9781784617974) | Valeriane Leblond | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 2020-01-10.

Dolenni allanol golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.