Wica Alecsandraidd

Traddodiad o Wica, sydd yn grefydd Neo-baganaidd, yw Wica Alecsandraidd. Sefydlwyd ef gan Alex Sanders (a elwir yn "Brenin y Gwrachod" weithiau[1]) gyda'i wraig Maxine Sanders yn y 1960au yn y Deyrnas Unedig. Mae Wica Alecsandraidd yn debyg iawn i Wica Gardneraidd, ac ystyrir ef fel y traddodiad mwyaf hysbys yn y grefydd.[2]

Cychwyniadau a hanes golygu

Seilir y traddodiad yn fawr ar Wica Gardneraidd, gan y cafodd Sanders hyfforddiant ynddo a hynny i'r Radd Gyntaf.[3] Mae hefyd yn cynnwys elfennau o ddewiniaeth seremonïol a Chabbala Hermetig, a astudiodd Sanders ar ei ben ei hun.

Daeth enw'r traddodiad o enw Alex Sanders ei hun ac o Lyfrgell Alecsandria, llyfrgell gyfrin hynafol, a oedd yn un o lyfrgelloedd y byd.[3][4] Dewiswyd i ddefnyddio enw'r llyfrgell ar ôl i Sanders ei gweld fel ymgais cynnar i ddod â gwybodaeth a challineb y byd at ei gilydd mewn un lle.[5] Mae Maxine Sanders yn cofio'r cafodd yr enw'i ddewis pan ddechreuodd myfyriwr Sanders, Stewart Farrar, ysgrifennu'r llyfr What Witches Do. "Gofynnodd Stewart beth ddylai Gwrachod sydd wedi cael eu hynydu i mewn i'n Cwfen alw eu hunain; ar ôl peth ddadlau, penderfynodd [Alex] i ddefnyddio "Alecsandraidd", a'r oedd Alex a minnau'n hoffi ef. Cyn hynny, roeddem yn ddigon hapus i gael ein galw'n Wrachod".[6]

Ymarferir Wica Alecsandraidd y tu allan i'r DU hefyd, gan gynnwys Canada ac Unol Daleithiau America. Mae Encyclopedia Mystica yn dweud "o ganlyniad i gyhoeddusrwydd negyddol Sanders, nid oedd Wica Alecsandraidd yr un mor boblogaidd â Wica Gardneraidd. Ers y 1980au, nid oedd dim cysylltiad â Sanders ei hun gan gwfenni Alecsandraidd Americanaidd. Mae cwfenni Alecsandraidd wedi gwneud yn well yng Nghanada lle'r oeddent yn gryf cyn cyhoeddusrwydd negyddol Sanders".[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. Johns, June (1969). King of the witches: The world of Alex Sanders. P. Davies. ISBN 0-432-07675-1
  2. Gweler Adler, Margot (1979). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-Worshippers, and Other Pagans in America Today. Viking. ISBN 0-670-28342-8 , a Farrar, Janet and Stewart, Bone, Gavin (1995). The Pagan Path. Phoenix Publishing. ISBN 0-919345-40-9 , ymysg eraill.
  3. 3.0 3.1 Rabinovitch, Shelley and Lewis, James R.. The Encyclopedia of Modern Witchcraft and Neo-Paganism. ISBN 0-8065-2407-3URL
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-10. Cyrchwyd 18 Mawrth 2007. Unknown parameter |dateformat= ignored (help); Unknown parameter |teitl= ignored (help)
  5. "copi archif". Gay Pagans, Gay Witches...?. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-29. Cyrchwyd 11 December 2005. Unknown parameter |dateformat= ignored (help); Unknown parameter |teitl= ignored (help)
  6. "copi archif". The Wiccan/Pagan Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-16. Cyrchwyd 11 December 2005. Unknown parameter |dateformat= ignored (help); Unknown parameter |teitl= ignored (help)
  7. Encyclopedia Mystica http://www.meta-religion.com/Spiritualism/Wicca/alexandrian_wicca.htm. Cyrchwyd 11 December 2005. Unknown parameter |dateformat= ignored (help); Unknown parameter |teitl= ignored (help); Missing or empty |title= (help)