William John Nicholson

gweinidog gyda'r Annibynwyr

Roedd Y Parch William John Nicholson (23 Rhagfyr, 186625 Tachwedd, 1943) yn weinidog gyda'r Annibynwyr.[1]

William John Nicholson
Ganwyd23 Rhagfyr 1866 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw25 Tachwedd 1943 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
TadWilliam Nicholson Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Nicholson ym Mangor, yn blentyn i William Nicholson[2] oedd ar y pryd yn athro ysgol Llanengan, Llŷn ac Annie (née Roberts) ei wraig. Ym 1867, cafodd William Nicholson ei ordeinio yn weinidog Annibynnol a'i sefydlu yn Rhoslan a Llanystumdwy. Bu'r teulu yn byw yn Llanystumdwy am dair blynedd. Ym 1870, symudodd ei dad i gymryd gofal eglwysi Treflys a Thyn-y-maes, Bethesda. Bu yn y cylch hwnnw hyd 1872. Ym Methesda dechreuodd Nicholson mynychu'r ysgol. Ar ôl ddwy flynedd ym Methesda symudodd y teulu i'r Groes-wen ger Caerffili.[3] Ar ôl pedair blynedd yn y Groes-wen cafodd y tad alwad i olynu Gwilym Hiraethog fel gweinidog Capel Grove Street, Lerpwl.

Ar ôl cael ychydig ychwaneg o ysgol gynradd yn Lerpwl danfonwyd William John i'r Ysgol Ramadeg Porthaethwy oedd o dan ofal y Parch. E. Cynffig Davies. Tra yn Ysgol y Borth y derbyniwyd Nicholson yn gyflawn aelod o eglwys yr Annibynwyr. Ym 1883 dechreuodd pregethu fel pregethwr lleyg, a hynny yn Grove Street, eglwys ei dad, a daeth yn bregethwr poblogaidd yn bur fuan. Ym 1885 bu farw ei dad.[4]

Blwyddyn wedi marwolaeth ei dad, bu Nicholson yn llwyddiannus yn arholiad mynediad ar gyfer Athrofa'r Annibynwyr Aberhonddu.[5] Dechreuodd ei gwrs paratoad at y weinidogaeth trwy fynychu Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd a'i gorffen yn Aberhonddu.

Gyrfa golygu

Wedi tair blynedd o hyfforddiant derbyniodd Nicholson alwad i fod yn weinidog ar Eglwys Annibynnol Saesneg Sant Paul, Abertawe. Cafodd ei ordeinio a'i sefydlu yn weinidog y capel ar 14 Mai, 1889 mewn oedfa a arweiniwyd gan ei ewythr y Parch Thomas Nicholson.[6] Wedi treulio ychydig dros dair blynedd yn Abertawe, symudodd i gymryd gofal Salem, Porthmadog, fel olynydd i'r Dr Lewis Probert ym 1892.[7] Arhosodd ym Mhorthmadog hyd ddiwedd ei yrfa.

Gwasanaethodd fel cadeirydd Cyfundeb Llŷn ac Eifionydd o enwad yr Annibynwyr ym 1902, bu hefyd yn ysgrifennydd cronfa (pwyllgor cyllid) y cyfundeb am sawl flwyddyn. Bu'n aelod o bwyllgor golygyddol "Y Caniedydd Cynulleidfaol", y llyfr emynau a defnyddiodd yr Annibynwyr rhwng 1895 a 1921. Gwasanaethodd fel cadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, 1929-30

Roedd Nicholson yn gallu barddoni ac enillodd ambell i wobr mewn eisteddfodau lleol, roedd hefyd yn gerddor pur fedrus yn gallu canu, chwarae'r organ a chyfansoddi, ond ni chyhoeddwyd dim o weithiau. Roedd yn cael ei gofio yn bennaf fel un o bregethwyr mwyaf grymus a phoblogaidd ei enwad yn ei gyfnod. [4]

Ymddeolodd Nicholson o'r weinidogaeth ym 1940 oherwydd afiechyd a bod o'n colli ei olwg.[1]

Teulu golygu

Ym 1909 priododd Nicholson â Prudence M'Lean, merch hynaf Robert M'Lean, aelod. Gweinyddwyd y seremoni gan y Parchg Thomas Nicholson, Paddington, ewythr y priodfab. [8] Ni fu iddynt blant.

Marwolaeth golygu

Bu farw ym Mhorthmadog yn 77 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel Salem, Porthmadog.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "NICHOLSON, WILLIAM JOHN (1866 - 1943), gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-05-21.
  2. "NICHOLSON, WILLIAM (1844 - 1885), gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-05-21.
  3. Cymru; cyf 38, 1910, tud 258 "Tro i'r Groes Wen" gan J James adalwyd 21 Mai 2021
  4. 4.0 4.1 TYWYSYDD Y PLANT. Rhif 12. RHAGFYR, 1904. Cyf. XXXIV. Y PARCH. W. J. NICHOLSON, PORTHMADOG. adalwyd 21 Mai 2021
  5. "NEWYDDION CYMREIG.|1886-07-02|Y Celt - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-21.
  6. "CYFARFODYDD ORDEINIO MR W. J. NICHOLSON YN ST. PAUL, ABERTAWE.|1889-05-31|Y Tyst a'r Dydd - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-21.
  7. "| PORTMADOC.|1892-07-22|Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-21.
  8. "Marriage of the Rev W J Nicholson - Denbighshire Free Press". Charles Cottom & Co. 1909-08-14. Cyrchwyd 2021-05-21.
  9. Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd Arysgrifau Cerrig Beddau Ynyscynhaearn, Capel Salem Porthmadog