William Morris Lewis

gweinidog (MC)

Roedd Y Parch. William Morris Lewis (9 Mai 183926 Mai 1917) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Cymreig ac yn awdur.[1]

William Morris Lewis
Ganwyd9 Mai 1839 Edit this on Wikidata
Abergwaun Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mai 1917 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Lewis yn Abergwaun, yr hynaf o bump o feibion y Parch. Enoch Lewis, a oedd hefyd yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac Ann (née Griffiths) ei wraig. Fe'i haddysgwyd mewn ysgol ramadeg yn Abergwaun o dan ofal Dr George Rees, lle fu'n dysgu Lladin a Groeg. Bu mor llwyddiannus yn ysgol Dr Rees fel cafodd mynediad i Goleg y Bala, pan nad oedd ond 14 mlwydd oed.[2]. Roedd yn yr un dosbarth yn y Bala a Thomas Charles Edwards,[3] mab hynaf pennaeth y coleg Dr Lewis Edwards.[4] Daeth y ddau gyd efrydydd yn gyfeillion oes.

Torrodd iechyd Lewis yn y Bala, a bu'n rhaid i'w dad mynd bob cam o Abergwaun i'w gyrchu adref ar ôl dim ond blwyddyn. Roedd y tad mor bryderus bod ei fab ar fin marw, fel y newidiodd ei wallt ei liw ar y daith honno.[2] Parhaodd ei gystudd am ddwy flynedd. Wedi gwella aeth Lewis i Ysgol Normal Abertawe ym 1856, dan ofal Dr Evan Davies i baratoi ar gyfer yr arholiad i gael ei dderbyn i mewn i Goleg Trefeca. Aeth i Drefeca ym 1857, ond dim ond flwyddyn bu ei gyfnod yno hefyd. Bu farw ei dad ar 27 Mehefin 1858 a bu raid i Lewis dychwelyd adref i gynorthwyo ei fam i redeg y siop roedd yn cadw.[5]

Priodas golygu

Ychydig ar ôl dychwelyd adref priododd Lewis â Letitia Maria Lloyd, merch W H Lewis Long House, Tre-fin ym mis Hydref 1859.[6] Bu iddynt wyth o blant. Fel gwaddol priodas cafodd rhydd feddiant fferm Tŷ Llwyd, Treffynnon, Sir Benfro ac yno fu'n byw am weddill ei ddyddiau. Bu farw Mrs Lewis 10 Rhagfyr 1909.[7]

Gyrfa golygu

Dechreuodd Lewis bregethu pan oedd tua 19 mlwydd oed ym 1857/58. Cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth yn Llanilltud Fawr ym 1863. Yn hytrach na derbyn galwad i fod yn weinidog ar un o gapeli ei gyfundeb, penderfynodd adeiladu capel ar ei dir ei hun, sef Capel Treffynnon, a adeiladodd ym 1867 ac a helaethodd ym 1876.[8] Treffynnon bu ei unig ofalaeth trwy gydol ei weinidogaeth.

Gwasanaethodd Lewis ei gymdeithas lleol trwy wasanaethu am nifer o flynyddoedd fel aelod o fwrdd warcheidwaid y tlodion Hwlffordd.[9] Ym 1893 gwasanaethodd fel Llywydd y Gymdeithasfa Fethodistaidd.[10]

Roedd Lewis yn cael ei ystyried fel diwinydd heb ei ail yn ei ddydd. Cyhoeddwyd nifer o'i ysgrifau diwinyddol yn Y Traethodydd, Y Drysorfa a chylchgronau Cristionogol eraill yng Nghymru a Lloegr. Traddododd darlith flynyddol y Gymdeithasfa, y Ddarlith Davies, ym 1900 ar bwnc "edifeirwch". Bu am nifer o flynyddoedd yn gohebu efo'r Dr Thomas Charles Edwards ar y ddadl o bwy oedd awdur yr Epistol at yr Hebreaid yn y Testament Newydd. Y farn draddodiadol oedd mai'r Apostol Paul, oedd awdur y llythyr. Mor gynnar â'r 3edd ganrif OC bu rhai yn codi amheuon parthed ei awduraeth.[11] Erbyn diwedd y 19 ganrif y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion oedd bod yr awdur yn anhysbys, ond yn bendant nid Paul ydoedd,[12] roedd Edwards yn derbyn y farn yma. Roedd Lewis yn glynu at y farn draddodiadol mae Paul oedd yr awdur. Bu cymaint o ohebiaeth rhyngddynt ar y pwnc fel o'r diwedd y gofynnodd Edwards i Lewis i beidio ysgrifennu mwy ato ynghylch y cwestiwn. Yn hytrach nag ildio ar y ddadl, trefnodd Lewis ei ohebiaeth yn gyfres o erthyglau Saesneg a chyhoeddwyd yn y cylchgrawn diwinyddol The Thinker. Derbyniodd yr erthyglau cymeradwyaeth gan nifer o arweinwyr Cristionogaeth traddodiadol megis Syr William Mitchell Ramsay [13] a'r Athro Henry Melvill Gwatkin [14] o Brifysgol Caergrawnt. Cafwyd cyfieithiadau o'r erthyglau mewn cylchgrawn yn yr Almaen. Y dadleuon a gyhoeddwyd gan Lewis yn The Thinker parthed awduriaeth Paul o Hebreaid yw'r rhai sy'n cael eu defnyddio hyd heddiw gan efengylwyr sy'n glynu at y traddodiad.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref Tyllwyd, Treffynnon yn 78 mlwydd oed,[15] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent ei gapel yn Nhreffynnon gyferbyn a'i diweddar wraig.[16]

Cyfeiriadau golygu

  1. LEWIS, WILLIAM MORRIS (1839 - 1917), gweinidog (MC). Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  2. 2.0 2.1 Y Traethodydd Cyf. LXXIII (VI) (326-329), 1918. Atgofion am Y Parch W. M. Lewis, Tyllwyd gan William Evans, Doc Penfro Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  3. EDWARDS, THOMAS CHARLES (1837 - 1900), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, esboniwr a phregethwr, prifathro cyntaf y Coleg Cenedlaethol, Aberystwyth (1872-91), ac ail brifathro Athrofa'r Bala (1891-1900). Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  4. EDWARDS, LEWIS (1809 - 1887), prifathro Coleg y Bala am 50 mlynedd, athro a diwinydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  5. "PARCH W M LEWIS TYLLWYD - Y Goleuad". John Davies. 1917-06-01. Cyrchwyd 2020-11-21.
  6. Trysorfa y Plant Cyf. XXXIX Rhif. 463 - Gorffennaf 1900 Y PARCH. W. MORRIS LEWIS, TYLLWYD Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  7. "THE LATE MRS LEWIS TYLLWYD - The Pembroke County Guardian and Cardigan Reporter". Henry Whiteside Williams. 1909-12-24. Cyrchwyd 2020-11-21.
  8. Coflein Capel Treffynnon Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  9. "HAVERFORDWEST BOARD OF GUARDIANS - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1880-07-16. Cyrchwyd 2020-11-21.
  10. Y Cylchgrawn Cyf. 2 rhif. 10 - Hydref 1892 CYMDEITHASFA MAESTEG Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  11. Alan C. Mitchell, Hebrews (Liturgical Press, 2007) Tud 2.
  12. "Introduction to the Letter to the Hebrews" Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  13. "Ramsay, Sir William Mitchell (1851–1939), classical scholar and archaeologist". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/35664. Cyrchwyd 2020-11-21.
  14. "Gwatkin, Henry Melvill (1844–1916), historian and theologian". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/33618. Cyrchwyd 2020-11-21.
  15. "Y PARCH WILLIAM LEWIS TYLLWYD - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1917-05-30. Cyrchwyd 2020-11-21.
  16. "CLADDEDIGAETH Y PARCH W M LEWIS TYLLWYD - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1917-06-06. Cyrchwyd 2020-11-21.