Wyn Jones

Cerddor a chynhyrchydd recordiau o Gymro

Cerddor a chynhyrchydd o Gymro oedd Wyn Lewis Jones (25 Medi 195924 Mehefin 2021). Gyda'i frawd Richard ffurfiodd y grŵp Ail Symudiad a chwmni recordiau Fflach yn Aberteifi.[1]

Wyn Jones
GanwydWyn Lewis Jones Edit this on Wikidata
25 Medi 1959 Edit this on Wikidata
Aberteifi Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mehefin 2021 Edit this on Wikidata
o canser y pancreas Edit this on Wikidata
Aberteifi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor, cynhyrchydd recordiau Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Wyn yn fab i Moelwyn a Betty Jones, yn frawd iau i Richard (1955–2021). Fe'i magwyd yn Aberteifi.

Yn 1978, ar ddiwedd y cyfnod pync, ffurfiodd y band Ail Symudiad gyda'i frawd. Roedd Wyn yn chwarae'r gitâr fas a chanu llais cefndir. Cafodd y band eu dylanwadu gan grwpiau fel Y Trwynau Coch, Buzzcocks, The Clash a'r Sex Pistols ac yn un o'r cyntaf o'r ardal i chwarae caneuon roc. Perfformiodd y grŵp ei gig cyntaf ym Mart Aberteifi ym Mai 1979. Danfonodd y grŵp gasét o'i caneuon at Eurof Williams, cynhyrchydd rhaglen Sosban yn Abertawe ar y pryd, a hynny yn dilyn cyngor gan rai o aelodau'r Trwynau Coch. Yn fuan daeth y band yn boblogaidd gyda'r gynulleidfa a bu'r grŵp yn chwarae cyngherddau ar draws Cymru yn yr 1980au. Yn 1982, enillodd y band y wobr prif grŵp roc yng Ngwobrau Sgrech yng Nghorwen.

Yn 1981, sefydlodd Wyn a Richard label Fflach, a'u bwriad oedd recordio caneuon gan grwpiau newydd oedd yn datblygu yn y cyfnod - grwpiau fel Y Ficar ac Eryr Wen. Datblygodd Wyn stiwdio recordio gan ddatblygu ei ddoniau fel cynhyrchydd recordiau. Drwy hyn y rhoddodd gyfle i nifer fawr o fandiau Cymraeg yr ardal a thu hwnt i recordio eu caneuon.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017, urddwyd Wyn a Richard gyda'r wisg werdd wrth eu derbyn i'r Orsedd.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn 61 mlwydd oed wedi brwydro yn hir gyda chancr y pancreas. Roedd yn gadael ei frawd Richard a'i wraig Ann, a'i neiant Dafydd ac Osian.

Cynhaliwyd angladd preifat i'w deulu a ffrindiau am 12:00, 30 Mehefin 2021. Cyn hynny gadawodd ei gartref yn Tenby Road, Aberteifi am 11:45 i wneud un siwrnai olaf rownd y dre.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cerddor Ail Symudiad, Wyn Jones wedi marw , BBC Cymru Fyw, 25 Mehefin 2021. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2021.
  2.  Neges ar gyfrif Twitter, Ail Symudiad (29 Mehefin 2021).