Brythoniaid

(Ailgyfeiriad o Y Brythoniaid)

Roedd y Brythoniaid (neu'r Brutaniaid a hefyd Brython fel enw unigol lluosog) yn bobl a'r oedd yn byw yn ynys Prydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban cyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o deyrnasoedd annibynnol mawr a bach yn seiliedig ar batrymau llwythol. Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y Brythoniaid – maen' nhw'n defnyddio termau fel "Celtiaid" neu "Brythoniaid Rhufeinig" gan amlaf.

Tiriogaethau Prydain 500-700

Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn 410 OC roedd Lladin, iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar y Frythoneg ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythur. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd – ysgrifau am hanes a dirywiad tybiedig y genedl gan y mynach Gildas, canu Taliesin ac Aneirin yn cael eu traddodi ar lafar, a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig ac ar feini – yn arwain at gychwyn llenyddiaeth Gymraeg.

Yn llenyddiaeth gynnar Cymru, defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid/Brutaniaid) ochr yn ochr.

Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'u perthynas â'r Llydäwyr yn Llydaw (fel y tyst yr enw Breton) a'r Cernywiaid yng Nghernyw, ynghyd â'u cyd-Frythoniaid yn yr Hen Ogledd. Dros y môr i Lydaw aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedl Macsen Wledig a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd yn Lloegr – a dyma le ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar.

Hanes golygu

 
Llun o Caradog, arweinydd Celtaidd a ymladdodd yn erbyn y Rhufeiniaid

Glaniodd Iŵl Cesar ym Mhrydain ym mis Awst 55 C.C., ond ni lwyddwyd i oresgyn Cymru (a oedd, fel gweddill Prydain, yn diriogaeth Geltaidd) am fwy na chanrif wedi hynny. Roedd llwythau Celtaidd Cymru — a oedd, yn ddiwylliannol, yn debyg iawn i'w cymdogion Brythonaidd yn ne Prydain — yn cynnwys y Silwriaid yn y de a'r Ordovices yn y gogledd. Fe sefydlodd y Rhufeinwyr gadwyn o amddiffynfeydd dros dde Cymru, cyn belled â Chaerfyrddin (Maridunum). Mae tystiolaeth iddyn nhw fynd ymhellach i'r gorllewin a chroesi i Iwerddon. Adeiladasant 'gaer y lleng' Caerllion (Isca), lle mae'r amffitheatr sydd wedi goroesi orau ym Mhrydain. Roedd y Rhufeiniaid hefyd yn brysur yn y gogledd — mae hen chwedl, Breuddwyd Macsen Wledig, yn dweud wrth Macsen Wledig, un o ymerawdwyr olaf yr ymerodraeth yn y Gorllewin, briodi Helen ferch pennaeth Cymreig o Segontiwm (Caernarfon gyfoes). Mae'n debygol mai'r rheswm pam y gwladychwyd Cymru gan y Rhufeiniaid yw oherwydd eu hawch i fwyngloddio aur, plwm, copr ac arian, a pheth sinc.[1]

 
Y Bardd, 1774, gan Thomas Jones

Dechreuodd oresgyniad y Rhufeiniaid yn 43 OC ac anfonwyd fyddin o 40,000 i brydain yn 48 OC. Dlaiwyd yr arwr Celtaidd Caradog a chymerwyd ef i Rufain yn 54 OC. Daliwyd Ynys Môn, cadarnle Derwyddon yr Ordoficiaid yn 61 OC a thorrwyd i lawr goed derw y derwyddon. Gadawodd y catrawd Rhufeinig i ymladd yn erbyn Buddug (Boudica) ond fe goncwerwyd yr ynys eto yn 78 OC. Parhaodd y Silwres i ymladd gyda thactegau guerilla tan yr un cyfnod, 74-78 OC. Ar ei hanterth tua 70 OC roedd tua 30,00 o filwyr Rhufeinig yng nghymru, ond roeddent yn cynnwys llwythau Nervii, Vettones, Astwriaid.[2]

Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Erbyn 120 OC creodd y Silwriaid Senedd Llwythol yn Caer-went fel canolbwynt "civitas", gwladwriaeth dinesig a ddefnyddiodd system ariannol rhufeinig. Fe ddaeth Caerfyrddin yn ganolbwynt i'r Demetae ond fe barhaodd ir Ordoficiad i wrthwynebu'r Rhufeiniaid yn y 3g a'r 4g ac mae eu tiroedd yn wag ar fapiau Rhufeinig, er gwaethaf presenoldeb milwyr.[2]

Dywed Gwyn Alf Williams y ganwyd Cymru yn 383 pan gadawodd Macsen Gymru sy'n ymddangos yn y gân Yma o Hyd; ond mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn anghytuno â hyn. Erbyn 393, dad-filwriwyd Cymru oherwydd roedd angen mwy o filwyr gan y Rhufeiniaid yn Gâl ac erbyn 410 gadawodd y catrwadau rhufeinig gan adael dim ond tasgfeistri ar ôl i "fflangellu ysgwyddau'r brodorion" yn ôl Gildas. Erbyn 400 cymysgwyd llawer o ladin gyda'r iaith frodorol Brythoneg ac fe gyfunwyd y traddodiadau a diwylliant Celtaidd gyda rhai Rhufeinig.[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Geraint Bowen (gol.), Y Gwareiddiad Celtaidd (Caerdydd, 1987). Gweler yn arbennig pennod 4, "Y Brydain Rufeinig" gan D. Ellis Evans a phennod 9, "Yr Ymfudo i Lydaw" gan Léon Fleuriot.
  • Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
  • John Morris, The Age of Arthur (Llundain, 1973)
  • Christopher Snyder, The Britons (Blackwell, 2003)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Barri; Mattingly, David (1990). "The Economy". An Atlas of Roman Britain. Caergrawnt: Blackwell Publishers (cyhoeddwyd 2007). tt. 179–196. ISBN 9781842170670.
  2. 2.0 2.1 2.2 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 37–52. ISBN 978-1-84990-373-8.